Cwpan FA Lloegr: Aston Villa 0-3 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Courtney Baker-Richardson sgoriodd y gyntaf i Abertawe wedi llai na dau funud o'r chwaraeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Courtney Baker-Richardson sgoriodd y gyntaf i Abertawe wedi llai na dau funud o'r chwarae

Mae Abertawe drwodd i bedwaredd rownd Cwpan yr FA yn dilyn buddugoliaeth gyfforddus oddi gartref yn erbyn Aston Villa.

Fe rwydodd Courtney Baker-Richardson i'r ymwelwyr wedi llai na dau funud o'r chwarae yn Villa Park.

Toc wedi'r egwyl, fe roddodd y bytholwyrdd Nathan Dyer yr Elyrch ddwy ar y blaen, cyn i Jay Fulton sgorio gyda 10 munud yn weddill i wneud y sgôr yn 0-3.