Y Muni ym Mhontypridd yn ôl dan reolaeth y cyngor

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Gelfyddydau'r Muni
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ail-berchnogi'r adeilad er mwyn cyd-weithio i sicrhau ei barhad ar gyfer y dyfodol

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cymryd perchnogaeth o Ganolfan Gelfyddydau y Muni ym Mhontypridd.

Cafodd y ganolfan ei chau'n ddirybudd cyn y Nadolig, er mawr sioc a siom i'r staff a'r gymuned leol.

Am nad yw'r tenantiaid sy'n rhedeg y ganolfan eto wedi dechrau'r broses ffurfiol o fynd i ddwylo'r gweinyddwyr, mae'r cyngor wedi gallu gweithredu ar dermau'r cytundeb les.

Yn ôl yr aelod cabinet dros wasanaethau diwylliannol, mae ail-berchnogi'r adeilad yn golygu bod modd i'r cyngor "barhau gyda thrafodaethau" i gynnig modelau busnes newydd i'r adeilad.

'Trasiedi'

Ymddiriedolaeth nid-er-elw sydd wedi bod yn rhedeg y ganolfan ers iddi gau unwaith yn 2014 yn sgil toriadau gan y cyngor.

Bore Mawrth dywedodd Mick Antoniw, AC Pontypridd, bod cau'r ganolfan eto yn "drasiedi i'r bobl oedd yn gweithio yno".

Mae nifer o'r staff a gollodd eu gwaith cyn y Nadolig wedi gorfod troi at gymorth banciau bwyd ac yn pryderu am eu tâl dileu swydd.

Fodd bynnag, pwysleisiodd aelod o fwrdd ymddiriedolwyr y ganolfan bod staff wedi cael yr hyn oedd yn ddyledus iddynt ym mis Rhagfyr.

Datgelodd Mr Antoniw bod 17 mlynedd i fynd ar y les, a bod gobaith ar gyfer y dyfodol petai modd ei drosglwyddo i denantiaid newydd.

'Cefnogi dyfodol ymarferol'

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Lewis, aelod cabinet dros Gymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol fod y cyngor yn "awyddus i gefnogi dyfodol ymarferol a chynaliadwy" i'r ganolfan.

"Mae'r cam gweithredol hwn yn rhoi'r cyngor mewn sefyllfa i barhau i drafod gyda grwpiau sydd wedi mynegi diddordeb mewn datblygu model busnes i ail-agor Canolfan Gelfyddydau y Muni fel lleoliad celfyddydol," meddai.

"I hwyluso ail-agor y Muni i'r cyhoedd cyn gynted ag sy'n ymarferol bosib, mae'r cyngor wedi neilltuo cefnogaeth arbennig i gynorthwyo grwpiau sydd â diddordeb datblygu eu cynigion.

"Mae'r cyngor hefyd yn cymryd camau i sicrhau bod yr adeilad yn ddiogel tan ddyfodiad tenant newydd."