Canolfan gelfyddydau'n cau heb rybudd oherwydd dyledion
- Cyhoeddwyd
Mae canolfan gelfyddydau'r Muni ym Mhontypridd wedi mynd i'r wal a chau'n ddirybudd wedi cyfnod o drafferthion ariannol.
Cwmni elusennol nid-er-elw sy'n rhedeg y ganolfan ar ôl cymryd yr awennau wedi iddi gau yn 2014.
Ond mae datganiad ar dudalen Facebook y ganolfan yn dweud nad oes modd iddyn nhw aros ar agor yn sgil "trafferthion ariannol" y tair blynedd diwethaf.
Dywedodd llefarydd ar ran undeb y GMB: "Mae'n ffordd ofnadwy i drin pobl - maen nhw'n cael gwybod eu bod yn colli eu gwaith dridiau cyn y Nadolig."
Roedd Jessica Sullivan, 34, o Ferthyr Tudful, yn gweithio yn y ganolfan fel rheolwr y swyddfa docynnau am bron i flwyddyn.
"Rwy'n tampan, nid yn unig ar ran fy hun, ond ar ran y tîm i gyd," meddai.
"Mae yna fam sengl, aelod arall o staff yn disgwyl plentyn, un arall yn 2 gyda dau o blant. Dydyn ni ddim yn teimlo ein bod yn cael ein gwerthfawrogi o gwbwl. Rydym wedi cael ein trin fel ffyliaid."
Roedd y ganolfan yn rhan o bortffolio Cyngor Rhondda Cynon Taf tan 2015 ond fe gafodd ei phrydles ei throsglwyddo i'r cwmni er mwyn ei hailagor er budd y gymuned.
Dywedodd y cwmni ar Facebook bod yna lu o drafferthion ariannol dros y tair blynedd diwethaf, "a gyda dim cyllid craidd doedden ni ddim yn gallu gwireddu ein gweledigaeth".
Ychwanegodd: "Yn anffodus, yn y flwyddyn ddiwethaf fe gynyddodd y dyledion yn sylweddol ac fe wnaeth archwiliad annibynnol o'r cyfrifon amlygu ein gwir sefyllfa ariannol, oedd wedi dod yn anghynaladwy."
'Newid y cloeon'
Mae'r cwmni wedi diolch i staff, aelodau'r bwrdd, gwirfoddolwyr, y cyngor tref a swyddogion cyngor sir, gan ddweud eu bod wedi gweithio'n "galed eithriadol".
Dywed Gareth Morgans o'r GMB bod tua 14 aelod o staff "i fod i gael eu cyflogau" ddydd Sadwrn "ond mae'r llythyr yn dweud y bydd yn rhaid iddyn nhw fynd trwy'r gwasanaeth methdalu.
"Roedden nhw'n gwybod bod hyn am ddigwydd, ond bob tro aethon nhw at reolwyr roedden nhw'n cael y neges bod dim i boeni amdano.
"Ar yr un pryd ag oedden nhw'n cael gwybod eu bod yn colli'u swyddi, roedd yna seiri cloeon yn newid y cloeon."
Yn ei blog, fe ysgrifennodd Yvonne Murphy, a gafodd ei phenodi'n cyfarwyddwr artistig y ganolfan yn ddiweddar, bod y ganolfan yn "cau ei drysau ar gymuned sy'n ei charu ac ei hangen".
Fe ddisgrifiodd y sefyllfa fel "hanes o reoli gwael a phenderfyniadau gwael".
Mae arbenigwyr wedi cael eu penodi i ddiddymu'r cwmni.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2014
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2014