Y Gynghrair Genedlaethol: Bromley 2-0 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Cafodd Wrecsam ergyd i'w gobeithion o ennill dyrchafiad o'r Gynghrair Genedlaethol ar ôl cael eu trechu oddi cartref yn Bromley nos Fawrth.
Aeth y tîm cartref ar y blaen ar ôl 20 munud, gyda chic gornel Frankie Raymond yn canfod Marc Okoye, beniodd i gefn y rhwyd.
Dyblwyd mantais Bromley ar ddiwedd yr hanner cyntaf wrth i George Porter ergydio heibio i'r golwr Rob Lainton yn dilyn croesiad Adam Mekki.
Dyma'r drydedd gêm i Wrecsam golli yn olynol, ac mae'n golygu eu bod yn disgyn i'r pedwerydd safle yn y tabl, ond dim ond pedwar pwynt y tu ôl i Leyton Orient ar y brig.