Risg 'trychineb' heb wella amddiffynfeydd môr Bae Colwyn
- Cyhoeddwyd
Mae pryderon o'r newydd wedi eu codi am gyflwr amddiffynfeydd môr yn ardal Bae Colwyn, a'r effaith bosib ar amgylchedd ac economi gogledd orllewin Cymru petai storm fawr yn y dyfodol.
Mae aelodau o Gyngor Sir Conwy yn rhybuddio bod yna berygl o "drychineb" os nad oes gwelliannau brys ar ran o'r prom yn Hen Golwyn lle mae ffordd ddeuol yr A55 a'r rheilffordd yn agos iawn i'r arfordir.
Rhwng £12m a £15m yw cost y gwelliannau yn ôl amcangyfrif y cyngor, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru am arian i'w cwblhau.
Ond mae'r llywodraeth yn dweud bod angen i'r cyngor "gael cyfraniadau sylweddol" gan gyrff ac asiantaethau eraill a fyddai'n elwa o'r gwelliannau, a bod trafodaethau'n parhau ynghylch ariannu gwaith posib.
Mae cynghorwyr yn poeni y gallai storm fyddai'n niweidio'r prom yn Hen Golwyn ddod â'r holl draffig i stop.
Mae'r ffordd agosaf at y prom wedi cael ei chau yn y gorffennol oherwydd stormydd, a'r rhybudd yw y gallai'r un peth ddigwydd i'r ffordd fawr a'r rheilffordd os nad oes gwelliannau.
'Darnau jig-so'
Dywedodd un o gynghorwyr sir ward Colwyn, y Cynghorydd Brian Cossey: "Mae gyda chi'r môr a'r ffordd, ac o dan y ffordd mae un o garthffosion Dŵr Cymru. Wedyn mae gyda chi'r rheilffordd a'r A55.
"Rydym yn bryderus iawn... rydym yn siŵr o gael storm fawr gyda llanw uchel gyda gwynt o'r gogledd neu'r gogledd orllewin a fydd yn achosi difrod i'r prom.
"Pe bai'r morglawdd yn mynd ac yn niweidio'r carthffos, yna mae gyda chi drychineb amgylcheddol yr holl ffordd i lawr arfordir y gogledd orllewin."
Dywedodd bod y cyngor wedi gwneud popeth posib i gynnal a chadw'r morglawdd sy'n dyddio o Oes Fictoria, ond mai dim ond Llywodraeth Cymru sydd mewn sefyllfa i ariannu cynllun mor uchelgeisiol.
Ychwanegodd bod y llywodraeth wedi awgrymu haf diwethaf y gallen nhw "ystyried neilltuo hyd at 50% o'r gost os oedd y cyngor a phartneriaid eraill [Dŵr Cymru a'r Asiantaeth Briffyrdd] yn ymuno â'r cyngor a thalu'r gweddill".
Y "drafferth" nawr, meddai Mr Cossey, "yw cael y pedwar darn o'r jig-so yn eu lle".
"Mae Llywodraeth Cymru - yn gwbl gywir, mae'n siŵr - eisiau gwario arian amddiffyn rhag llifogydd i warchod eiddo, cartrefi a phobl.
"O ran y rhan arbennig yma o'r morglawdd does dim tai, ond mae yna drafferthion isadeiledd sylweddol mewn ardal hanner milltir o hyd."
Dim cytundeb ariannu
Ond yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru dydyn nhw ddim wedi cytuno i ariannu gwaith yn Hen Golwyn.
Dywedodd bod trafodaethau wedi bod gyda'r awdurdod lleol ynghylch ariannu'r cynllun yma a bod y trafodaethau hynny yn parhau, ond bod angen i'r cyngor "gael cyfraniadau sylweddol" gan "berchnogion asedau" eraill a fyddai'n elwa o unrhyw welliannau.
Ychwanegodd eu bod wedi dweud wrth y cyngor bod "lleihau'r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol i gartrefi a busnesau" yn rhan ganolog o'u hamcanion wrth roi arian ar gyfer cynlluniau rheoli bygythiadau o'r fath.
Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru: "Yn dilyn difrod i'r prom yn Hen Golwyn wedi tywydd garw llynedd, mae Dŵr Cymru wedi ymrwymo i gyfrannu tuag at gostau trwsio'r wal gan fod gennym asedau yn yr ardal."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2017
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2017