Ystyried cyhuddiad o dwyll treuliau yn erbyn AS o Gymru

  • Cyhoeddwyd
Chris Davies
Disgrifiad o’r llun,

Chris Davies yw Aelod Seneddol Brycheiniog a Maesyfed

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i dreuliau AS Ceidwadol o Gymru wedi anfon ffeil at Wasanaeth Erlyn y Goron.

Fe fydd erlynwyr yn penderfynu nawr a fydd cyhuddiadau troseddol yn cael eu dwyn yn erbyn Chris Davies, AS Brycheiniog a Maesyfed.

Mae Mr Davies wedi cael ei holi ddwywaith gan Heddlu'r Met ynglŷn â honiadau'n ymwneud â hawlio treuliau drwy dwyll.

Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron y byd penderfyniad yn cael ei wneud "yn y man".

'Camgymeriad'

Mae Mr Davies yn mynnu ei fod wedi gwneud "camgymeriad gonest" drwy hawlio am dreuliau ar gyfer lluniau a dodrefn i'w swyddfa etholaethol yn 2016.

Cafodd ei holi gan swyddogion am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf.

Mae wedi bod yn Aelod Seneddol ers dros dair blynedd, ar ôl cipio'r sedd gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2015.

Dywedodd llefarydd ar ran Scotland Yard: "Cafodd dyn 50 oed ei gyfweld o'i wirfodd dan rybudd ddydd Mawrth 17 Gorffennaf 2018. Cafodd cyfweliad pellach ei gynnal ddydd Mercher 24 Hydref 2018.

"Mae ffeil wedi cael ei basio ymlaen i Wasanaeth Erlyn y Goron yn ymwneud â'r mater yma."

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mr Davies ei ethol i San Steffan am y tro cyntaf yn 2015

Mae Mr Davies wedi ei gyhuddo o greu dwy anfoneb am £450 a £250, yn hytrach na hawlio'r £700 llawn am y lluniau drwy gyfrifiadur.

Yn y gorffennol mae'n dweud iddo ad-dalu'r £450, a ddefnyddiwyd o gronfa sydd ar gael i ASau newydd ar gyfer sefydlu swyddfeydd.

Ym mis Tachwedd dywedodd: "Fe wnes i gyfarfod gyda Heddlu'r Met o fy ngwirfodd ar 24 Hydref er mwyn tynnu'r achos i derfyn sydyn.

"Rwyf yn barod i roi datganiad pellach am y ffeithiau unwaith fydd yr achos wedi dod i gasgliad."

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron: "Rydym wedi derbyn ffeil o dystiolaeth gan Heddlu'r Met yn ymwneud â hawliadau treuliau twyllodrus honedig, a bydd penderfyniad yn cael ei wneud yn y man."