Pryder am orwariant ar gynllun teithio'n rhatach ar fysiau
- Cyhoeddwyd
Mae pryder y gallai Lywodraeth Cymru fod wedi gwastraffu miliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus ar sefydlu cynllun teithio'n rhatach ar fysiau i bobl ifanc.
Fe wnaeth cynllun Fy Ngherdyn Teithio gostio £15m yn ystod cyfnod prawf o 19 mis, ond dim ond £1m y flwyddyn wedi iddo gael ei lansio'n llawn.
Mae adroddiad newydd yn dweud bod swyddogion yn credu y byddai 80% o bobl ifanc rhwng 16 ac 18 oed yn defnyddio'r cerdyn, ond llai na 10% wnaeth hynny yn ystod y cyfnod prawf.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y cerdyn wedi annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio bysiau.
'Cwestiynau amlwg'
Yn ôl adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, Adrian Crompton, roedd "cwestiynau amlwg" ynghylch gwerth am arian y cynllun.
Mae ACau Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr hefyd wedi codi pryderon ynglŷn ag a gafodd arian cyhoeddus ei wastraffu.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros yr economi a chyllid, Rhun ap Iorwerth fod y dystiolaeth yn "un ai dangos fod y llywodraeth wedi gorwario neu fod y cynllun wedi bod yn fethiant o'r cychwyn cyntaf".
"Mae'r ystadegau yn codi cwestiynau dwys ynglŷn â gallu'r llywodraeth," meddai.
Ychwanegodd Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad, yr AC Ceidwadol Nick Ramsay ei fod yn "poeni fod arian cyhoeddus wedi ei wastraffu".
Roedd y cynllun i greu teithiau rhatach i bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed i fod i gael ei ehangu hyd at rai oedd yn 21 oed ym mis Rhagfyr, ond cafodd hynny ei ohirio.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod cynllun Fy Ngherdyn Teithio "wedi lleihau cost 1.3 miliwn o deithiau rhwng 2017-18, gan hybu fwy o bobl ifanc i ddefnyddio'r gwasanaeth".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2017