Tlws FA Lloegr: Wrecsam 0-1 Leyton Orient
- Cyhoeddwyd
Perfformiad siomedig oedd un Wrecsam ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn wrth iddynt wynebu Leyton Orient yn ail rownd Tlws yr FA.
Roedd y gêm yn ddi-sgôr am dros awr.
Yn y diwedd cic gosb a wahanodd y ddau dîm a hynny wrth i Harrold sgorio i'r ymwelwyr er fod Leyton i lawr i ddeg dyn.
Wrth siarad ar ddiwedd y gêm dywedodd y rheolwr cynorthwyol Mike Newell "fod y golled yn brifo a bod yn rhaid mynd yn ôl at y sylfaen - y sylfaen hwnnw sydd wedi rhoi Wrecsam mewn safle da."