Cymru 'i elwa'n ddiwylliannol' o wyliau llên yn India

  • Cyhoeddwyd
Llenorion CymruFfynhonnell y llun, Llenyddiaeth ar draws Ffiniau

Bydd Cymru yn "elwa'n ddiwylliannol" o'u hymweliad â dwy ŵyl ddiwylliannol amlwg yn India, yn ôl y bardd Llŷr Gwyn Lewis.

Mae criw o lenorion amlwg o Gymru wedi teithio i dde orllewin India er mwyn cymryd rhan yng Ngŵyl Lenyddiaeth Kerala.

Cymru yw'r wlad wadd eleni, ac mae'r digwyddiadau yn nodi 10 mlynedd o gydweithio parhaus rhwng Cyfnewidfa Lên Cymru, Llenyddiaeth ar draws Ffiniau a chyrff ac unigolion yn y byd llenyddol yn India.

Bydd darlleniadau, perfformiadau a dangosiadau ffilmiau hefyd yn cael eu cynnal yn Mumbai yr wythnos nesaf fel rhan o ŵyl yno.

'Ofnadwy o ddiddorol'

Ymhlith yr awduron o Gymru sy'n cymryd rhan mae'r awdur Caryl Lewis, Cwmni Theatr Invertigo a'r beirdd Robert Minhinnick a Llŷr Gwyn Lewis.

Dywedodd Mr Lewis ar y Post Cyntaf fod y diddordeb yn yr ŵyl wedi bod yn "rhyfeddol" a bod trafod a rhannu agweddau o ddiwylliannau'r ddwy wlad wedi bod yn "ofnadwy o ddiddorol".

Mae'r gweithgareddau yn rhan o raglen Blwyddyn Ddiwylliant y Deyrnas Unedig ac India i nodi 70 mlwyddiant annibyniaeth India.

Cafodd yr ŵyl ei hagor gydag anerchiad fideo gan y Gweinidog Diwylliant, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.

Mae ffocws yr ŵyl eleni ar ffilm a theatr yn ogystal ag ar lenyddiaeth a barddoniaeth.

Ffynhonnell y llun, Llenyddiaeth ar draws Ffiniau
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Llŷr Gwyn Lewis (chwith) mae Cymru yn siwr o elwa'n ddiwylliannol o'r ymweliad

Bu Robert Minhinnick a Llŷr Gwyn Lewis yn cydweithio mewn gweithdy cyfieithu barddoniaeth rhwng beirdd o India ac Ewrop ddydd Gwener.

"Rydyn ni wedi bod yn cyfieithu cerddi'n gilydd cyn cael y cyfle i'w perfformio i gynulleidfaoedd yr ŵyl, mae hynny wedi bod yn ofnadwy o ddiddorol," meddai Mr Lewis.

Fe fydd Caryl Lewis, fydd yn darllen ei gwaith, hefyd yn cymryd rhan mewn sesiynau trafod ac fe fydd y ffilm Martha Jac a Sianco yn cael ei dangos.

Yn ogystal bydd cyfle i gynulleidfaoedd y ddwy ŵyl wylio ffilmiau eraill o Gymru sydd yn deillio o lenyddiaeth neu farddoniaeth.

Bydd ffilm Hedd Wyn, y ffilm ddogfen Dal: Yma/Nawr, ac Y Llyfrgell gan Fflur Dafydd hefyd yn cael eu dangos.