Beirdd Cymru ar daith i ymweld â llenorion India
- Cyhoeddwyd
Bydd beirdd o Gymru yn teithio i India gyda'r nod o atgyfnerthu cysylltiadau diwylliannol rhwng Cymru ac India drwy lenyddiaeth, gan ganolbwyntio ar gyfieithu ac amrywiaeth ieithyddol.
Rhwng Tachwedd 12 a Thachwedd 17, bydd y beirdd Siân Melangell Dafydd, Robert Minhinnick, Twm Morys ac Eurig Salisbury yn teithio o Gymru i Kerala yn ne India.
Fe fyddan nhw'n cydweithio â phedwar bardd o India: K. Satchidanandan, yr awdur Malayali; Anamika, y bardd Hindi; Sampurna Chattarji, y bardd o Fengal sy'n trigo ym Mumbai ac Anitha Thampi, bardd a chyfieithydd Malayali.
Mewn gweithdy a drefnir gan Gyfnewidfa Lên Cymru, bydd yr wyth bardd yn cael y cyfle i gyfnewid syniadau a meithrin dealltwriaeth o wreiddiau diwylliannol ei gilydd a'r hyn a ysbrydolodd eu gwaith.
Gan gydweithio mewn parau a grwpiau, bydd y beirdd yn cyfieithu cerddi ei gilydd yn greadigol.
Cadwyn Awduron
Dyma'r cam diweddara ym mhrosiect Cadwyn Awduron India-Cymru y Cyngor Prydeinig.
Mae hyn yn dilyn cyfres o weithdai a pherfformiadau yng Nghymru ym mis Mehefin 2011 gyda thri bardd o India.
Dywedodd Robert Minhinnick: "Mae'n hyfryd cael bod yn rhan o'r prosiect uchelgeisiol hwn a chwrdd ag amrywiaeth o awduron newydd a sefydledig.
"Mae hyn yn pwysleisio pa mor bwysig yw datblygu cwmpas ein celfyddydau.
"Yn Kerala byddwn yn cyfnewid syniadau ac yn dysgu am fywyd mewn cymdeithas amlieithog - nid dwyieithog yn unig - ac rwy'n edrych ymlaen at gael archwilio'r posibiliadau a'r cyfleoedd creadigol sy'n dod i'r amlwg pan fo ieithoedd yn rhyngweithio."
'Ffrind am oes'
Dywedodd Anamika, y bardd o India: "Umra-bhar ek mulakat chali jati hai: Os ffrind, ffrind am oes.
"Rwy'n gweld daearyddiaethau moesol gwahanol a hanesion diwylliannol amrywiol yn cyd-gwrdd ac yn ymddiddan â'i gilydd, a bydd hyn yn rhoi modd i fyw i ni.
"Bydd gweld cymdeithas wirioneddol amlblwyfol sydd hefyd â nodweddion modern, amgen yn cyfnewid diwylliannau, breuddwydion, atgofion, syniadau a gweledigaethau yn werth chweil."
Datblygwyd Cadwyn Awduron Cymru-India 2010-2012 gan y Cyngor Prydeinig a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru mewn partneriaeth â Chyfnewidfa Lên Cymru, ac fe'i cefnogir gan Lywodraeth Cymru, Gŵyl y Gelli a Llenyddiaeth ar draws Ffiniau Cymru.
O dan arweiniad Dr Sioned Puw Rowlands, cyfarwyddwr Cyfnewidfa Lên Cymru, un o amcanion y grŵp yw creu corff o waith sy'n addas i'w gyhoeddi mewn blodeugerdd o farddoniaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg, yn ogystal â Bengaleg, Hindi a Malayalam.
Dywedodd Dr Rowlands: "Fel cenedl ddwyieithog, mae Cymru'n ymwybodol o gyfoeth iaith a'r defnydd ohoni ac, fel y bobl Indiaidd amlieithog, yn ymwybodol o'r cyfleoedd y gall cyfieithiadau llenyddol esgor arnyn nhw.
"Ar y cam hwn o'r prosiect Cadwyn Awduron rydym yn parhau â'r gwaith o helpu awduron newydd a sefydledig o Gymru i gael eu gwaith wedi'i gyfieithu i ieithoedd un o'r marchnadoedd cyhoeddi sy'n tyfu cyflymaf yn y byd.
"Bydd hefyd yn cyflwyno cynulleidfaoedd Cymru i'r tueddiadau barddonol a'r chwyldroadau llenyddol sy'n mynd rhagddynt ledled yr is-gyfandir Indiaidd."