Cynllun yn mynd a diwylliant Cymru i India
- Cyhoeddwyd
Fe fydd 11 o brosiectau celfyddydol yn derbyn cyllid i fynd a diwylliant Cymru i India fel rhan o dymor diwylliannol y DU yn India 2017.
Bydd gweithwyr creadigol proffesiynol o India a Chymru yn teithio i wledydd ei gilydd i gyd-weithio a chynhyrchu gwaith newydd, gan gynnwys creu llyfrau, cerddoriaeth a dawns.
Bydd y prosiectau yn cael cyfran gronfa India-Cymru sydd werth £450,000.
Mae'n gynllun ar y cyd rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a'r Cyngor Prydeinig, sydd â'r nod o helpu i feithrin perthynas rhwng y ddwy wlad.
Bydd perfformiadau'n cael eu cynnal yn India a Chymru, a bydd rhywfaint o'r gwaith ar gael ar-lein, gydag artistiaid a chynulleidfaoedd yn y ddwy wlad yn elwa o weithdai, teithiau a sgyrsiau.
Mae'r prosiectau yn cynnwys:
Theatr Iolo yn gweithio gyda ThinkArts, cwmni Indiaidd sy'n cynhyrchu digwyddiadau celfyddydol i blant, er mwyn datblygu theatr newydd ar gyfer babanod a phobl ifanc
Parthian Books yn gweithio gyda Bee Books yn India ar brosiect 'Through the Valley, City, Village', a fydd yn gweld awduron Indiaidd a Chymreig yn gweithio gyda'i gilydd yn Bengal a Chymru i gynhyrchu llyfr newydd
Cwmni theatr Cymreig Living Pictures yn teithio India gyda'u cynhyrchiad o 'Diary of a Madman', gan weithio gyda chwmni adloniant Indiaidd QTP, i ddarparu gweithdai sgiliau technegol.
Bydd y rhestr lawn o brosiectau a ddewiswyd yn cael eu cyhoeddi yng Nghanolfan Mileniwm Cymru gan Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates.