Heddlu'r De: Apêl wedi ymosodiad ar ddynes 72 oed
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru wedi apelio am fwy o wybodaeth yn dilyn ymosodiad difrifol ar ddynes 72 oed ger Abertawe.
Digwyddodd yr ymosodiad yn nhŷ'r ddynes ym Mhontarddulais ddydd Mercher 9 Ionawr.
Mae hi'n parhau mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.
Mae'r heddlu yn galw ar bobl yr ardal i fod yn wyliadwrus ac maen nhw'n parhau i chwilio am bwrs oedd yn berchen i'r ddioddefwraig.
Chwilio am ddyn yn ei arddegau
Cafodd y ddynes ei chanfod yn ei chartref ar Heol Garnswllt gydag anafiadau difrifol i'w phen.
Dywedodd Ditectif Arolygydd, Matthew Davies, eu bod yn edrych am un person yn benodol.
"Hoffwn gysylltu gyda dyn gwyn yn ei arddegau hwyr oedd yn yr ardal fore Mercher. Roedd yn gwisgo top tywyll a bag ar ei gefn," meddai.
Yn ôl Heddlu'r De, dylai unrhyw un â rhagor o wybodaeth gysylltu gyda'r llu ar 101 neu'n ddienw drwy Crimestoppers ar 0800 555 111.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2019