Cyhuddo dyn wedi gwrthdrawiad angheuol yn Sir Caerffili
- Cyhoeddwyd
![Rhan o Ffordd Newydd, Ystrad Mynach](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/10835/production/_105173676_6dcb3b45-7beb-46ca-9e34-1dac67e72f87.jpg)
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar ran o Ffordd Newydd, Ystrad Mynach
Mae disgwyl i ddyn 30 oed o ardal Caerffili fynd o flaen llys ddydd Llun ar ôl i Heddlu Gwent ei gyhuddo o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.
Bu farw Jason Clarke, 43 oed o ardal Tre-lyn y dref, yn y fan a'r lle wedi gwrthdrawiad yn Ffordd Newydd, Ystrad Mynach ddydd Gwener.
Mae'r diffynnydd hefyd yn wynebu dau gyhuddiad o achosi anaf difrifol trwy yrru'n beryglus.
Mae disgwyl iddo fynd o flaen ynadon yng Nghasnewydd ddydd Llun.
Roedd yna ddau gerbyd - Seat Leon du a fan Volkswagen Crafter llwyd - yn y gwrthdrawiad a ddigwyddodd rhwng 20:15 a 20:30 ar 11 Ionawr.
Mae'r llu'n apelio i'r cyhoedd am wybodaeth a lluniau dash-cam allai fod o gymorth i'r ymchwiliad.