Beirniadu sylwadau 'rhagrithiol' Theresa May am ddatganoli

  • Cyhoeddwyd
Theresa MayFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Fe bleidleisiodd Theresa May yn erbyn sefydlu'r Cynulliad yn 1997

Fe wnaeth Theresa May ail-ysgrifennu rhannau o'i haraith am Brexit yn dilyn beirniadaeth ei fod yn ffeithiol anghywir.

Roedd disgwyl i'r Prif Weinidog ddweud bod y ddwy ochr wedi derbyn canlyniad refferendwm datganoli 1997.

Ond fe bleidleisiodd Mrs May yn erbyn cymeradwyo'r ddeddf a sefydlodd y Cynulliad.

Cafodd rhan honno'r araith ei dileu, ac yn hytrach dywedodd wrth y dorf yn Stoke bod canlyniad 1997 wedi ei dderbyn yn San Steffan.

Dywedodd llefarydd o Blaid Cymru ei fod yn enghraifft o "hanes adolygiadol", tra bod AC Llafur yn credu bod y sylwadau yn arwydd o anwybodaeth.

Roedd y sylwadau yn rhan o araith ehangach ble roedd Mrs May yn rhybuddio bod San Steffan yn fwy tebygol o rwystro Brexit na gadael i'r DU adael heb gytundeb.

Roedd disgwyl iddi ddweud: "Fel yr ydyn ni eisoes wedi gweld dros yr wythnosau diwethaf, mae yna rai yn San Steffan sydd eisiau oedi neu hyd yn oed rhwystro Brexit ac yn fodlon defnyddio unrhyw ddull posib i sicrhau hynny.

"Gofynnaf i ASau i ystyried goblygiadau eu gweithredoedd ar ffydd pobl Prydain yn ein democratiaeth.

"Dychmygwch os byddai Tŷ'r Cyffredin yn erbyn datganoli, ac wedi dweud wrth bobl yr Alban neu Gymru fod y Senedd yn gwybod yn well, er eu bod nhw wedi pleidleisio o blaid.

"Pan bleidleisiodd pobl Cymru o blaid ffurfio'r Cynulliad... cafodd y canlyniad yno ei dderbyn gan y ddwy ochr, ac nid yw cyfreithlondeb y sefydliad erioed wedi cael ei herio o ddifrif."

'Anwybodus ac yn annerbyniol'

Ar ôl i'r sylwadau gael eu cyhoeddi cyn yr araith, nododd rhai bod Theresa May wedi pleidleisio yn erbyn y ddeddf i greu'r Cynulliad yn 1997, ynghyd ag aelodau Ceidwadol eraill.

Ar y pryd, dywedodd yr AS Ceidwadol, Nigel Evans, bod y canlyniad yn rhy agos i ddweud bod y mater wedi ei setlo yn bendant.

Roedd maniffesto'r blaid Geidwadol yn 2005 yn galw am refferendwm arall ar ehangu pwerau'r sefydliad, neu ei ddiddymu yn gyfan gwbl.

Dywedodd yr AC Llafur, Alun Davies fod y sylwadau yn "anwybodus ac yn annerbyniol", gan ychwanegu ei fod yn "drosiad perffaith ar gyfer Brexit".

Dywedodd llefarydd o Blaid Cymru ei fod yn enghraifft o "hanes adolygiadol" a "rhagrith ofnadwy".

Ffynhonnell y llun, UK Parliament
Disgrifiad o’r llun,

Fe heriodd Liz Saville-Roberts y Prif Weinidog yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Llun

Yn ystod trafodaeth yn San Steffan ddydd Llun fe wnaeth AS Plaid Cymru, Liz Saville-Roberts, herio Mrs May drwy gwestiynu ei record bersonol hi o bleidleisio yn erbyn datganoli.

Wrth siarad yn Nhŷ'r Cyffredin, dywedodd Ms Saville-Roberts: "Mae'r Prif Weinidog yn dod yn syth o'i haraith yn Stoke lle wnaeth hi fynnu ein bod ni'n parchu canlyniad y refferendwm [ar Brexit].

"Ond eto, fe bleidleisiodd hi yn erbyn sefydlu'r Cynulliad yn 1997, ac yn 2005 roedd hi'n cefnogi maniffesto yn galw am refferendwm arall gyda'r opsiwn o wyrdroi'r canlyniad.

"Sut mae'r Prif Weinidog yn gallu gwneud y fath orchmynion o ystyried ei hanes personol hi?"

Wrth ymateb, dywedodd Mrs May bod y Blaid Geidwadol wedi derbyn y canlyniad yn 1997, a bod hanes diweddar y Cynulliad yn brawf eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad cywir.