Bagiau cryfach i rwystro gwylanod rhag creu llanast
- Cyhoeddwyd
Fe fydd trigolion yn Aberystwyth, sydd wedi bod yn cwyno am broblem gwylanod yn creu llanast ar y strydoedd y dref, yn cael bagiau sbwriel cryfach fel rhan o gynllun peilot.
Mae hyn yn dilyn arbrawf cynharach gan Gyngor Geredigion ym mis Awst, lle'r oedd modd i drigolion Rhodfa'r Gogledd roi eu gwastraff mewn biniau cymunedol ag olwynion.
Mae'r cyngor wedi derbyn nifer o gwynion am wylanod yn achosi llanast wrth ymosod ar fagiau sbwriel yn y dre glan y môr.
Bydd Cyngor Ceredigion yn darparu'r sachau cryfach newydd i drigolion ar hyd Stryd Cambria a rhannau o Ffordd Alexandra.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, aelod o gabinet Ceredigion â chyfrifoldeb am wasanaethau amgylcheddol, fod y treialon sy'n cael eu cynnal yn bwysig.
"Mae rhai ardaloedd yn Aberystwyth yn dioddef o'r ymosodiad cyson o wylanod a phla eraill ar ddiwrnodau casglu biniau.
"Rydym yn deall bod y materion yma yn achosi straen a rhwystredigaeth am nifer o drigolion ac rydym wedi bod yn edrych ar sawl ffordd gallwn ni helpu goresgyn y broblem."
Bydd y cyngor yn asesu'r cynlluniau maes o law.
"Dim ond os bydd y cynlluniau yma yn llwyddiannus y gallwn ni edrych mewn i ddechrau'r gwasanaethau yma mewn ardaloedd eraill," meddai llefarydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd25 Medi 2018