Cytundeb Brexit Theresa May yn colli o fwyafrif mawr

  • Cyhoeddwyd
Theresa MayFfynhonnell y llun, Reuters

Mae Llywodraeth y DU wedi cael ei threchu yn drwm yn Nhŷ'r Cyffredin ar ei chytundeb Brexit.

Pleidleisiodd 432 yn erbyn y cytundeb, gyda 202 yn ei gefnogi - mwyafrif o 230 yn erbyn.

Yn syth ar ôl y bleidlais fe alwodd arweinydd y blaid Lafur Jeremy Corbyn am bleidlais o ddiffyg hyder yn y llywodraeth.

Bydd y cynnig yn cael ei drafod yn y Senedd ddydd Mercher.

Pe bai'r llywodraeth yn colli yna byddai cyfle i ffurfio llywodraeth arall. Os nad oedd hynny'n bosib, byddai'n golygu etholiad cyffredinol.

Ar ôl y bleidlais fe wnaeth Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford alw am oedi yn y broses drwy ofyn am estyniad i Erthygl 50.

Ar Twitter dywedodd: "Roedd cytundeb y prif weinidog o hyd yn mynd i fod yn llai na'r hyn oedd angen i amddiffyn ein heconomi a swyddi.

"Ers ei gyhoeddi rydym wedi gofyn ar ei llywodraeth i ddychwelyd i Frwsel ac i ofyn am gytundeb sy'n gweithio i holl wledydd y DU. Mae'n bryd iddi wrando arnom ni."

Roedd y rhan fwyaf o aelodau seneddol Cymru eisoes wedi dweud y byddant yn pleidleisio yn erbyn cytundeb Theresa May.

Disgrifiad,

Ymateb y sylwebydd gwleidyddol Tweli Griffiths

Roedd pedwar AS Plaid Cymru ac aelodau seneddol Llafur o Gymru ymhlith y 432 wnaeth wrthwynebu'r cytundeb.

Mae'n rhaid mynd yn ôl i 1924 i unrhyw ganlyniad tebyg - pan gollodd y prif weinidog Ramsay MacDonald o 166.

'Gwrthwynebiad clir a phendant'

Dywedodd Liz Saville Roberts, Arweinydd Plaid Cymru yn y Senedd: "Mae hwn yn wrthwynebiad clir a phendant o gytundeb y Prif Weinidog.

"Os yw'r cynnig o ddiffyg hyder yn y Llywodraeth yn methu, mae'n rhaid cael ail refferendwm, pleidlais y bobl, fel mae aelodaeth y blaid honno am ei weld."

O ran y bleidlais fe wnaeth chwech o'r Ceidwadwyr Cymreig gefnogi'r llywodraeth - Alun Cairns, Stephen Crabb, Chris Davies, David Davies, Glyn Davies a Simon Hart.

Fe wnaeth 32 o ASau Cymru wrthwynebu'r cytundeb.

jeremy corbyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jeremy Corbyn bellach wedi galw pleidlais o ddiffyg hyder yn Llywodraeth y DU

Ar ôl y bleidlais dywedodd Mrs May ei bod yn benderfynol o barhau â'r broses.

"Mae'r Tŷ wedi rhoi ei farn a bydd y llywodraeth yn gwrando," meddai.

Fe wnaeth dau AS Ceidwadol o Gymru bleidleisio yn erbyn y llywodraeth - y cyn-weinidog Brexit David Jones, AS Gorllewin Clwyd, a Guto Bebb, AS Aberconwy.

Dywedodd Mr Bebb wrth BBC Radio Cymru ei fod yn teimlo nad oedd ganddo unrhyw ddewis ond i bleidleisio yn erbyn y llywodraeth a "bod cytundeb Mrs May nawr yn farw".

Ychwanegodd y byddai gadael yr UE heb gytundeb yn cael effaith andwyol ar Gymru.