'Hedfan cyn gyrru car': Y Cymry sy'n mynd â ni ar wyliau
- Cyhoeddwyd
Mae'r Nadolig drosodd, yr addurniadau yn yr atig, yr addunedau eto i'w torri a hysbysebion di-ri am wyliau tramor ar y teledu. Barbados, Seland Newydd, y Carîbî - i gyd yn sgrechian am ein sylw, ein sbectol haul a'n sandals.
Mae angen rhywbeth i edrych ymlaen ato wedi'r cyfan yn does?
Diolch byth felly am bobl fel Osian Gwyn Williams, peilot o Gaernarfon, sy'n ein galluogi i hedfan i lefydd pell yn ei waith bob dydd.
Ond a yw'r gwaith mor egsotig â hynny?
Dechreuodd Osian ei yrfa hedfan chwe mlynedd yn ôl gydag Air Atlanta Icelandic cyn symud at Ryanair. Erbyn hyn mae'r peilot 27 mlwydd oed yn gweithio i Qatar Airways fel First Officer ac yn hedfan Boeing 777.
"Un o'r pethau gorau yn fy swydd i ydi cael gweld pob cornel o'r byd tra fy mod i yn yr awyr ac yn aros yn rhywle," meddai.
"Tra fy mod hefo Ryanair, dim ond 25 munud roeddan ni'n treulio mewn destination ac yna yn ôl i'r base gwreiddiol ac yna rhywle eto… tueddu i wneud pedwar trip mewn diwrnod... ond mae bywyd gyda Qatar yn hollol wahanol.
"Ar y rhan fwyaf o'r hediadau, rydym yn aros mewn gwlad am ddiwrnod neu ddau.
"Y pella' rydym yn hedfan, y mwya' o amser gawn ni yno i ymlacio. Er enghraifft, pan rydym yn hedfan i arfordir dwyrain America (Efrog Newydd, Washington ac yn y blaen) rydym yn cael noson yno, ond i fynd i'r ochr arall (Los Angeles), gawn ni ddwy noson.
"Dwi wrth fy modd yn gwneud y tripiau hir gan ein bod yn cael fwy o amser i weld y llefydd. Auckland, Seland Newydd ydi fy ffefryn i, ac am gyfnod, Auckland i Doha oedd y flight hira' yn y byd… dipyn dros 18 awr mewn awyren!"
O'i gartref yn Doha yn y Dwyrain Canol lle mae'n byw gyda'i wraig Adelina, ychwanega Osian:
"Dwi'n meddwl beth 'dwi'n ei fwynhau fwya' ydi fod pob diwrnod yn hollol wahanol un ai drwy y bobl dwi'n fflio gyda (weithiau mae 'na bedwar peilot ar yr awyren), y tywydd, y lle 'da ni'n hedfan i a'r gwledydd 'da ni'n hedfan drostyn nhw.
"Mae rhai llefydd yn gymhleth a heriol iawn o ran deall acen gwahanol yr Air Traffic Controllers a pha mor brysur ydi'r airport."
Hedfan cyn gyrru car
Roedd Osian wedi rhoi ei galon ar fod yn beilot ers i'w rieni fynd ag o am wyliau tramor mewn awyren am y tro cyntaf pan oedd ond yn bedair oed.
Mae ei ddyfalbarhad wedi talu ar ei ganfed erbyn hyn ac mae yn ei seithfed nef yn chwarae be' mae'n ei alw yn "computer game mawr yn yr awyr."
Dechreuodd gael gwersi hedfan awyrennau bach tuag at ennill ei drwydded breifat fel peilot pan oedd dal yn yr ysgol.
"Peth rhyfedd oedd hedfan cyn dreifio car," meddai.
"Gallwch ddechrau hedfan ar eich pen eich hun pan rydych chi'n 15 oed a derbyn y drwydded y diwrnod rydych yn troi yn 17 oed."
Ond nid ar chwarae bach mae cyrraedd y cymylau fel Osian, mae wedi golygu oriau maith yn ymarfer ac hyfforddi a dipyn o fuddsoddiad ariannol hefyd i'r teulu.
"Tydi'r broses o fod yn beilot ddim yn cael ei hysbysebu llawer a prin iawn ydy'r Cymry rydych yn eu cwrdd.
"Mae cost yr hyfforddiant yn reit serth i fod yn onest ac yn aml mae angen benthyca dipyn go lew o arian i gymhwyso. Tydi o ddim yn covered dan student finance chwaith! Os ydych yn lwcus i gael gwaith ar ôl yr hyfforddiant, mae o werth pob ceiniog!"
Croesi'r moroedd mawr
Un arall sydd wedi codi pac ydi Llinos Ogwen Westgarth-Pratt. Yn wreiddiol o ardal Bethesda, mae hi bellach yn byw yn Portsmouth ar ôl treulio blynyddoedd ar y môr yn gweithio ar longau cruise enfawr.
Erbyn hyn mae ganddi fab 18 mis oed - felly mae Llinos yn byw mewn tŷ am y tro cyntaf ers blynyddoedd gyda'i gŵr, John.
Wrth hel atgofion am ei dyddiau yn canu a diddanu ar y llongau mawr moethus, mae mwynhad Llinos, sy'n 41 oed, tuag at ei gwaith yn amlwg.
"Mae mynd i weithio ar cruise ship yn amazing! Gweld y byd wrth weithio mewn job ti yn caru!" meddai.
"Mae gweld gymaint o wledydd yn anhygoel ond mae yr un cruise drosodd a drosodd yn medru dreifio chdi yn lwpi weithia' so pan mae'r llong yn 're-positionio' mae yna ddathlu gan y criw.
"Mae o yn waith caled achos ti byth yn stopio. Does dim middle ground ar y llong - ti un ai ar ben y byd neu ti reit lawr - ond 'di hynna ddim yn para yn hir a ti fyny eto!"
"Ti yn gwneud ffrindiau am oes achos mae o yn 24 awr 7 diwrnod yr wythnos. Ti ar long am amser hir - naw mis oedd contract cynta' fi! Nath Dylan (cydweithwr a chyfaill erbyn hyn) gadw fi yn sane ac mae wedi dod yn ffrind gora' anhygoel! Roeddan i yn mynd i'r lan am 'ddiwrnodiau Cymraeg' - jyst i siarad yn Gymraeg trwy'r dydd oddi wrth y llong.
"Trwy bob dim mae gweithio ar long yn amazing, ond tydi o ddim i bawb.
"I fi, dwi jest yn caru canu a siarad! Mae o'n grêt hefyd cael cyfarfod pobl o bob man yn y byd! Neud ffrindia a dysgu dipyn bach o lot o ieithoedd eraill!"
Mae Llinos yn canu ac actio'n broffesiynol ers ei bod yn 23 mlwydd oed, ac roedd ei gwaith ar y môr yn golygu ychydig o bopeth: canu yn y brif lolfa, actio yn y theatr, cyflwyno gemau i'r teithwyr, cwisiau, hel teithwyr a'u hannog i ddawnsio mewn partïon ar y dec a gwisgo mewn costumes.
Ond roedd digon o amser i fwynhau gyda phartïon, gemau a thripiau o bob math i'r criw oedd ar y llong am fisoedd weithiau.
Tra'n gweithio ar y llongau y daeth Llinos i adnabod ei gŵr sy'n gapten llong - felly roedd digon o gyfle i drafod gorwelion ehangach hefyd, mae'n rhaid!
Hefyd o ddiddordeb: