Llywodraeth Theresa May yn ennill pleidlais o ddiffyg hyder
- Cyhoeddwyd
Mae cynnig o ddiffyg hyder yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi methu.
Fe bleidleisiodd 325 o aelodau seneddol o blaid llywodraeth Theresa May, a 306 yn erbyn - mwyafrif o 19.
Yn syth wedi'r bleidlais, dywedodd Mrs May ei bod yn "barod i weithio gydag unrhyw aelod o'r Tŷ i gyflawni Brexit".
"Hoffwn wahodd arweinwyr y pleidiau seneddol i gyfarfod yn unigol a hoffwn ddechrau'r cyfarfodydd yma heno," meddai.
Mewn datganiad am 22:00 tu fas i 10 Downing Street, galwodd Mrs May ar aelodau seneddol i "weithio'n adeiladol gyda'n gilydd".
Datgelodd ei bod wedi cyfarfod arweinwyr yr SNP, Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru, a'i bod yn "siomedig" nad oedd eto wedi gweld arweinydd y blaid Lafur.
Strategaeth 'hurt'
Galwodd Arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, ar Mrs May i gadarnhau y byddai'r llywodraeth yn diystyru Brexit heb gytundeb fel opsiwn ar gyfer y dyfodol.
Ychwanegodd Mr Corbyn y byddai'n rhaid iddi wneud hynny cyn i unrhyw "drafodaethau cadarnhaol" ddigwydd.
Cadarnhaodd Plaid Cymru fod arweinydd y blaid yn San Steffan, Liz Saville Roberts, a llefarydd Brexit y blaid yn San Steffan, Hywel Williams, wedi cyfarfod â'r Prif Weinidog nos Fercher, er mwyn "dod o hyd i ddatrysiad go iawn i lanast Brexit".
Ychwanegodd ei bod yn "bendant yn ei barn mai'r unig ffordd i symud ymlaen ydy rhoi'r dewis i'r bobl ar ein dyfodol Ewropeaidd".
Dywedodd Mrs May iddynt gael cyfarfod "adeiladol".
'Angen Brexit caled'
Wedi'r bleidlais, dywedodd AS Mynwy, oedd wedi cefnogi cytundeb Mrs May, y byddai bellach yn cefnogi "Brexit caled, ar delerau WTO".
Dywedodd David Davies y byddai'r wythnosau nesaf yn "frwydr seneddol" rhwng y rhai sydd am weld Brexit caled, a'r rhai sydd am "aros yn yr Undeb Ewropeaidd ac anghofio am beth ddywedodd y refferendwm".
Cemlyn Davies, gohebydd Brexit BBC Cymru:
Mwyafrif o 19 i Theresa May heno felly - stori wahanol iawn i neithiwr.
Bydd arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, yn wynebu mwy o gwestiynau nawr am ei safbwynt e - gan gynnwys galwadau oddi wrth nifer o'i aelodau seneddol ei hun arno i gefnogi refferendwm arall.
Polisi'r blaid yw cefnogi pleidlais arall os yw hi'n methu sicrhau etholiad cyffredinol.
Yn dilyn drama'r deuddydd diwethaf mae'r gwaith caled i Theresa May'n dechrau heno wrth iddi geisio sicrhau consensws o fath yn Nhŷ'r Cyffredin.
Dim ond 37 o ddiwrnodau o waith seneddol sy'n weddill cyn bod disgwyl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd ar y 29 Mawrth.
Yn ymateb i'r bleidlais nos Fercher, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ei fod yn ofni bod llai o opsiynau ar sut i "ddatrys yr argyfwng".
"Un ai fod y Senedd yn Llundain yn uno ar gynnig mwy 'meddal' o Brexit... neu gadael i'r bobl benderfynu ar y termau ry'n ni'n gadael neu os ydyn ni'n aros yn yr UE," meddai.
Strategaeth 'hurt'
Ar Twitter wedi'r bleidlais, dywedodd AS Plaid Cymru, Jonathan Edwards bod strategaeth Llafur o gyflwyno cynigion o ddiffyg hyder yn "hurt".
"Mae cyflwyno cynigion o ddiffyg hyder yn uno'r Ceidwadwyr ac yn cryfhau'r cysylltiad gyda'r DUP," meddai.
"[Mae'n] amser i Lafur symud ymlaen a chefnogi cyfle i'r bobl roi barn."
Dywedodd yr SNP eu bod yn fodlon trafod gyda Mrs May cyn belled bod refferendwm arall, ymestyn Erthygl 50 a gwrthod Brexit heb gytundeb i gyd yn cael eu hystyried.
Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol bod rhaid i'r Prif Weinidog ei wneud yn glir na fydd hi'n caniatáu i'r DU adael heb gytundeb.
Pleidleisiodd 432 aelod seneddol yn erbyn cytundeb Mrs May ar Brexit nos Fawrth - mwyafrif ysgubol o 230.
Yn syth ar ôl y bleidlais fe alwodd arweinydd y blaid Lafur Jeremy Corbyn am bleidlais o ddiffyg hyder yn y llywodraeth, sydd wedi methu.
Sut bleidleisiodd yr ASau Cymreig?
Pleidleisiodd yr holl ASau Llafur Cymreig - ac eithrio Jessica Morden oedd yn gyfrifol am gyfri'r bleidlais a Paul Flynn sydd yn sâl - yn erbyn y llywodraeth.
Fe wnaeth pedwar aelod Plaid Cymru hefyd wrthwynebu'r llywodraeth.
Pleidleisiodd yr wyth aelod Ceidwadol o Gymru gyda llywodraeth Theresa May.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2019