Y Cymro Chris Mepham wedi symud i Bournemouth am £12m
- Cyhoeddwyd

Mae Chris Mepham wedi chwarae pedair gêm dros Gymru
Mae Clwb Pêl-droed Bournemouth wedi arwyddo amddiffynnwr Cymru, Chris Mepham, ar gytundeb hirdymor.
Cafodd y chwaraewr 21 oed brawf meddygol gyda'r clwb o Uwch Gynghrair Lloegr ddydd Mawrth, a'r gred yw bod y ffi drosglwyddo yn £12m.
Fe geisiodd rheolwr Bournemouth, Eddie Howe, ddenu'r Cymro i'r clwb yn ystod yr haf ond roedd Brentford yn benderfynol o'i gadw.
Mae Mepham wedi chwarae 48 o weithiau i Brentford ers gwneud ei ymddangosiad cyntaf 'nôl ym mis Ionawr 2017.