Cwpan Pencampwyr Ewrop: Gleision 33-14 Lyon
- Cyhoeddwyd
Pum cais i'r tîm cartref wrth iddyn nhw drechu Lyon am yr ail dro eleni yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop.
Lyon oedd ar y blaen ar yr hanner, yn dilyn cais gosb gynnar a gwaith ardderchog gan Xavier Mignot i ychwanegu'r ail.
Ond dechreuodd y Gleision reoli'r chwarae wedi'r egwyl, gyda Tomos Williams a Gareth Anscombe yn dangos eu doniau ymosodol.
Fe sgoriodd yr asgellwr Aled Summerhill dau gais i'r Gleision, gydag Owen Lane, Williams a Lewis Jones hefyd yn trosi er mwyn sicrhau'r pwynt bonws.
Derbyniodd blaenasgellwr y Gleision, Olly Robinson, gerdyn melyn yn y munudau olaf, ond ni chafodd effaith ar y canlyniad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2018