Cwpan Her Ewrop: Pau 26-21 Gweilch

  • Cyhoeddwyd
Johnny KotzeFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Johnny Kotze dau gais i'r ymwelwyr

Colli o 26-21 oedd hanes y Gweilch yn eu gêm olaf yng Nghwpan Her Ewrop eleni.

Laurent Bouchet seliodd y fuddugoliaeth i'r tîm cartref, wrth iddo drosi gyda phum munud o'r gêm yn weddill.

Y Gweilch oedd ar y blaen am fwyafrif yr ail hanner ar ôl dau gais gan Johnny Kotze ac un gan Tiaan Thomas-Wheeler.

Roedd Sam Davies yn gywir wrth gicio am y pyst drwy'r prynhawn, ond doedd hynny ddim yn ddigon i'r ymwelwyr.

Daeth cyn-chwaraewr y crysau duon, Colin Slade, i'r cae hanner ffordd drwy'r ail gyfnod ac fe ddechreuodd Pau reoli'r chwarae cyn cipio'r fuddugoliaeth yn y munudau olaf.