Cadarnhau gwrthdrawiad angheuol ar yr A55
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau fod dynes wedi marw ar ôl cael ei tharo ar yr A55 ar Ynys Môn ddydd Iau.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car Vauxhall Corsa a cherddwr ger cyffordd 2, Y Fali, a chyffordd 3 tua 12:30.
Dywedodd Sarjant Emlyn Hughes o uned priffyrdd Heddlu'r Gogledd: "Mae'n drist cyhoeddi fod dynes wedi marw yn y gwrthdrawiad, ac rydym yn cydymdeimlo gyda'i theulu a'i chyfeillion."
Aed â gyrrwr y Corsa i Ysbyty Gwynedd gyda'r hyn sy'n cael eu disgrifio fel mân anafiadau.
Ychwanegodd Sarjant Hughes: "Rydym yn apelio am unrhyw dystion, neu unrhyw un oedd yn teithio ar hyn y rhan hynny o'r ffordd ac sydd o bosib â fideo o'r digwyddiad i gysylltu â ni mor fuan â phosib.
"Dylid cysylltu â'r uned priffyrdd ar 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod X007474."