'Ofn gwirioneddol' Emiliano Sala cyn taith awyren sydd ar goll
- Cyhoeddwyd
Mae'r chwilio am awyren aeth ar goll yn ystod taith o Ffrainc i Gaerdydd wedi dod i ben am ddiwrnod arall, gyda'r awdurdodau'n cyfaddef bod gobaith o ganfod unrhyw un yn fyw yn pylu.
Roedd ymosodwr newydd Clwb Pêl-droed Caerdydd, Emiliano Sala, a'r peilot David Ibbotson ar yr awyren pan ddiflannodd dros Fôr Udd (English Channel) tua 20:30 nos Lun.
Yn ôl adroddiadau yn ei famwlad yn Yr Ariannin, roedd y pêl-droediwr 28 oed wedi danfon neges WhatsApp at ei dad yn dweud ei fod yn "wirioneddol ofn" ac ar "awyren sy'n edrych fel ei bod am dorri'n ddarnau".
Dywedodd Prif Swyddog Awdurdod Chwilio Ynysoedd y Sianel, John Fitzgerald, nad yw'n credu bod gobaith o'u darganfod yn fyw erbyn hyn.
Bydd Heddlu Guernsey yn gwneud penderfyniad i barhau â'r chwilio neu beidio yn fuan fore Iau.
'Wnawn nhw ddim fy ffeindio'
Yn y neges mae'r ymosodwr yn dweud ei fod ar ei ffordd i Gaerdydd o Nantes i hyfforddi gyda'i gyd-chwaraewyr newydd, a'i fod "i fyny yma yn yr awyren, sy'n edrych fel ei bod am dorri'n ddarnau".
Dywedodd wedyn: "Os nad ydych chi'n cael unrhyw newyddion gen i mewn awr a hanner, 'sa i'n gwybod os ydyn nhw am ddanfon rhywun i chwilio amdana'i oherwydd wnawn nhw ddim fy ffeindio, ond nawr y'ch chi'n gwybod… Dad, rwy'n wirioneddol ofn!"
Am 11:30 fore Mercher, dywedodd Heddlu Guernsey fod tair awyren ac un hofrennydd yn yr awyr ond nad oedd unrhyw beth yn gysylltiedig â'r awyren goll wedi'i ddarganfod hyd yma.
Dywedodd Heddlu Guernsey eu bod yn canolbwyntio ar y posibilrwydd bod Sala a'r peilot wedi glanio ar ddŵr ond wedi llwyddo i fynd i'r rafft oedd ar yr awyren.
Y posibiliadau eraill yw bod y ddau yn fyw ar ôl glanio ar dir neu gael eu codi gan long a bod yr awdurdau heb gael gwybod eto, neu bod yr awyren wedi torri'n ddarnau wrth daro'r dŵr.
"Yn anffodus, dwi wir ddim yn meddwl bod unrhyw obaith yn bersonol [o ganfod unrhyw un yn fyw]," meddai Mr Fitzgerald.
"Dwi'n meddwl hyd yn oed y person mwyaf ffit, os ydyn nhw yn y dŵr, wnawn nhw ddim para am fwy na 'chydig oriau, ar adeg yma'r flwyddyn mae'r amodau'n eithaf ofnadwy - os ydych chi yn y dŵr.
Ychwanegodd y byddai'r chwilio'n parhau gyda'r "posibilrwydd prin iawn" o ddarganfod darnau o'r awyren, ond "dydw i ddim yn meddwl bod hynny'n debygol, byddwn ni wedi gweld hynny y tro cyntaf".
Cemlyn Davies, Gohebydd BBC Cymru yn Nantes
Mae yna sioc, tristwch a phryder yma'n Nantes. A neithiwr cafodd gwylnos ei chynnal yng nghanol y ddinas.
Daeth rhai cannoedd o bobl ynghyd ar Place Royale - nifer ohonyn nhw'n gwisgo'i crysau melyn a gwyrdd, eraill yn codi ei sgarffiau. Roedd yna ddagrau, roedd yna weddïo.
Ond nid cefnogwyr pêl-droed yn unig oedd yno, ond hefyd pobl leol gyffredin oedd yn cydnabod y cyfraniad mae Emiliano Sala wedi ei wneud i'r ddinas yn ystod ei amser yn chwarae dros y clwb lleol.
Fe ddywedodd sawl cefnogwr wrtha'i neithiwr nad oedd Sala gyda'r gorau o ran ei sgiliau e ar y maes - ei dechneg e.
Yn hytrach, roedd e'n arweinydd ac fe fyddai bob tro'n rhoi o'i orau ac yn brwydro o'r funud gynta' hyd at yr ola'.
A dyna pam roedd y cefnogwyr yma'n ei barchu e gymaint.
Yn ôl harbwrfeistr Guernsey, y Capten David Barker, roedd y timau achub yn wynebu "penderfyniad anodd" fore Mercher ynghylch parhau â'r chwilio ai peidio, yn rhannol oherwydd y rhagolygon tywydd.
Ychwanegodd bod yr ardal lle gall yr awyren fod yn ehangu o hyd.
"Mae'n cyrraedd pwynt amhosib, hyd yn oed gydag adnoddau di-ben-draw i chwilio'r ardal," meddai.
Mae criwiau, hofrenyddion a badau achub o Ynysoedd y Sianel a'r DU wedi bod yn chwilio am yr awyren mewn ardal dros 1,000 milltir sgwâr ers nos Lun.
Caerdydd 'mewn sioc'
Dywedodd Cadeirydd CPD Caerdydd, Mehmet Dalman, bod chwaraewyr a chefnogwyr yn parhau "mewn sioc" a bod y clwb "yn dal i weddïo".
Ychwanegodd bod y clwb wedi derbyn cefnogaeth o dros y byd, a "bod gan y teulu pêl-droed ffordd o ddod at ei gilydd mewn trasiedi".
Dywedodd Mr Dalman nad y clwb oedd wedi trefnu'r awyren ar gyfer y daith, ac y byddai'r clwb yn ceisio darganfod "yr holl ffeithiau" am y digwyddiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2019