Cwest: 'Noson berffaith' cyn marwolaeth merch yn Bali

  • Cyhoeddwyd
Natalie Morris ac Andrew SamuelFfynhonnell y llun, llun teulu

Clywodd cwest gan gariad merch fu farw ar wyliau yn Bali iddynt dreulio "noson berffaith" yng nghwmni ei gilydd cyn ei marwolaeth.

Cafodd Natalie Morris, 29 oed ac o Ferthyr Tudful, ei chanfod yn anymwybodol ym mhwll nofio ei fila ar noson gyntaf ei gwyliau.

Clywodd y gwrandawiad ym Mhontypridd bod Andrew Samuel, cariad Ms Morris, wedi mynd i'w wely toc wedi hanner nos, gan ddeffro bum awr yn ddiweddarach a gweld nad oedd hi yno.

Wedi iddo ruthro allan am 05.30 gwelodd bod Natalie yn gorwedd yn y pwll gyda'i hwyneb yn wynebu'r gwaelod ac fe ddeifiodd i'r pwll i geisio ei hadfywio.

'Ddim wedi yfed yn ormodol'

Wrth roi tystiolaeth dywedodd Mr Samuel iddynt dreulio "noson berffaith" gyda'i gilydd cyn hynny, gan fwynhau gwylio'r machlud ac yfed ger y pwll nofio.

"Doedden ni ddim yn yfed yn ormodol, ond roedden ni'n lled feddw," meddai.

"Es i i'r gwely tua hanner nos ac arhosodd Nat allan i orffen ei diod a chael sigarét.

"Roedd hi'n normal i fi fynd i'r gwely gyntaf, er nad oedd Natalie yn nofwraig dda.

"Dim ond pum troedfedd o ddyfnder oedd y pwll. Felly fe ddylai hi fod wedi bod yn iawn i nofio ynddo."

'Wedi dechrau dawnsio'

Holodd y crwner, Andrew Barkley, i Mr Samuel beth oedd e'n credu oedd wedi digwydd, ac atebodd ei fod yn credu fod Ms Morris wedi llithro ger y pwll.

"O 'nabod Nat roedd hi fwy na thebyg wedi dechrau dawnsio i gerddoriaeth," meddai. "Ond y tebyg yw iddi lithro a bwrw'i phen a chwympo mewn i'r pwll."

Ychwanegodd Mr Samuel fod Ms Morris yn "ddigon tal" i sefyll yn y pwll, ac "o weld lle'r oedd ei sigarét, roedd yn edrych fel bod hi wedi cwympo a'i gollwng".

Clywodd y cwest fod gan Ms Morris alcohol yn ei chorff a chleisio mewnol ar ochr chwith ei phen.

Wrth gofnodi rheithfarn naratif dywedodd Mr Barkley: "Bu farw Natalie Morris o effaith boddi mewn amgylchiadau sy'n aneglur.

"Dyw'r dystiolaeth ddim yn dangos sut yr aeth hi i'r dŵr nac yn dweud wrthym pam ei bod wedi methu tynnu ei hun allan o'r pwll."