Manon Johnes: Cyfuno Safon Uwch â chynrychioli Cymru

  • Cyhoeddwyd
Manon JohnesFfynhonnell y llun, Undeb Rygbi Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Manon Johnes yn cynrychioli Cymru yn erbyn De Affrica yng Nghyfres yr Hydref

Dim ond 18 oed yw Manon Johnes o Gaerdydd, ac mae hi eisoes wedi ennill tri chap dros dîm rygbi merched Cymru.

Y cam naturiol nesaf i'r disgybl chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yw chwarae ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Dechreuodd diddordeb Manon mewn rygbi ar ôl gwylio gemau'r Chwe Gwlad gyda'i thad.

Nawr mae hi'n gobeithio gwireddu ei breuddwyd o chwarae yn y gystadleuaeth honno.

'Ennill gemau'

"Y gobaith mwyaf yw cael cap yn y Chwe Gwlad, ond hefyd i ni fel carfan i gael gemau da... ac i ennill gemau," meddai.

"Y nod yn gyntaf yw Ffrainc a gobeithio y byddwn ni'n ennill y gêm yna.

"Bydd e'n sialens fawr achos mae 'da nhw garfan dda ac mae'r dorf yn dda hefyd. Bydd e'n dda i fi chwarae i ffwrdd a phrofi torf fel yna yn Ffrainc."

Ffynhonnell y llun, Undeb Rygbi Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Manon yn gobeithio mynd ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen neu Loughborough

Ar ôl cynrychioli Ysgol Glantaf, clwb y Cwins a rhanbarth y Gleision, enillodd ei chap cyntaf yn erbyn De Affrica yng Nghyfres yr Hydref y llynedd, a hithau ond yn 17 oed.

"Roedd e'n brofiad arbennig. Dysgais i gymaint gan y merched," meddai.

"Roedd e'n gam eithaf mawr achos dyma fy mlwyddyn gyntaf gyda'r seniors, felly dwi 'di chwarae gyda'r Gleision yn yr hydref ac wedyn Cymru.

"Mae'n arbennig cael chwarae gyda merched o'r safon yna a chwarae ar lefel rhyngwladol hefyd."

'Rhannu eu profiad'

Fel un o aelodau ieuenga'r garfan mae'n ddiolchgar i'r chwaraewyr eraill am rannu eu profiadau gyda hi.

"Mae'r blaenwyr yn arbennig. Mae lot ohonyn nhw yn brofiadol iawn - pobl fel Siwan Lillicrap a Sioned Harries," meddai.

"Maen nhw'n chwarae safleoedd tebyg i fi ac maen nhw'n rhannu eu profiad nhw gyda fi."

Ffynhonnell y llun, Undeb Rygbi Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Manon hefyd yn hyfforddi rhai o ferched ieuengaf Ysgol Glantaf

Ond nid rygbi'n unig sy'n hawlio ei sylw.

Mae Manon yn paratoi ar gyfer ei harholiadau Safon Uwch, cyn gobeithio mynd ymlaen i astudio Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen neu Loughborough.

"Dwi'n astudio Daearyddiaeth, Ffrangeg, Addysg Grefyddol a'r BAC - mae'n eithaf anodd cadw cydbwysedd achos mae'n lot yn academaidd ac wedyn rygbi.

"Ond i fod yn onest, y prysuraf ydw i, y gorau rwy'n gallu delio gydag amser. Mae'n neis cadw'n brysur."

'Arwain y clwb'

Yn ogystal â'r astudio a'r ymarfer mae hi hefyd yn hyfforddi rhai o ferched ieuengaf yr ysgol.

Yn ôl athrawes addysg gorfforol Ysgol Glantaf, Gwennan Harries mae nifer y merched sy'n dod i'r sesiynau wedi cynyddu oherwydd ymroddiad Manon.

"Hi sy'n arwain y clwb... mae hi mor frwdfrydig ac angerddol dros y gamp ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu o ran y niferoedd sy'n dod," meddai.

Ac mae Manon yn cael boddhad o'r sesiynau hefyd: "Mae'n neis eu gweld nhw'n datblygu o wythnos i wythnos.

"Beth ry'n ni'n ei weld nawr yw bod llawer o ysgolion yn lleol eisiau gemau felly mae lefel y gemau yn cynyddu, sy'n well i'r merched achos dy'n nhw ddim moyn ymarfer heb gael gemau."