Pro 14: Glasgow 9-3 Gweilch

  • Cyhoeddwyd
Matt SmithFfynhonnell y llun, SNS

Colli oedd tynged y Gweilch yn eu gêm Pro14 oddi cartref yn erbyn Glasgow yn Stadiwm Scotsoun nos Wener.

Cafodd y canlyniad ei ddyfarnu trwy giciau cosb yn unig gyda Glasgow gyda thri a'r Gweilch un.

Y capten Sam Davies aeth â'r unig bwyntiau i'r Gweilch a Brandon Thomson giciodd i Glasgow.

Mae'r Gweilch yn ennill un pwynt bonws am golli, gan olygu eu bod yn parhau yn drydydd yn y gynghrair.