Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 1-0 Maidenhead

  • Cyhoeddwyd
Luke YoungFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Luke Young sgoriodd unig gôl y gêm ar y Cae Ras

Fe wnaeth Wrecsam sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yn 2019 wrth drechu Maidenhead mewn gêm agos ar y Cae Ras ddydd Sadwrn

Mae Wrecsam wedi bod ar rediad sâl yn y Gynghrair Genedlaethol yn ddiweddar, gan golli eu pedair gêm ddiwethaf.

Llwyddodd Luke Young i sgorio unig gôl y gêm wedi 65 munud - gôl gyntaf y Dreigiau mewn dros naw awr o chwarae.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Wrecsam yn aros yn bumed yn y gynghrair, dim ond pedwar pwynt y tu ôl i Leyton Orient ar y brig.