Pro14: Dreigiau 7-8 Munster
- Cyhoeddwyd
Cafodd y Dreigiau eu trechu mewn gêm agos yn erbyn Munster brynhawn Sadwrn er gwaethaf perfformiad amddiffynnol addawol gan y rhanbarth.
Aeth y tîm cartref ar y blaen yn gynnar yn yr hanner cyntaf, gyda'r prop Lloyd Fairbrother yn croesi am gais.
Gôl gosb gan Bill Johnston oedd unig bwyntiau arall yr hanner cyntaf, gan olygu bod gan y Cymry fantais o 7-3 ar yr egwyl.
Roedd hi'n gêm dynn, gyda'r Dreigiau yn brwydro i gynnal eu mantais a chadw Munster rhag croesi'r llinell gais yn yr ail hanner.
Ond roedd yr ymwelwyr yn rhy gryf, ac fe lwyddodd y blaenwr Jean Kleyn i sgorio cais a selio buddugoliaeth o un pwynt yn unig i'r Gwyddelod.