Teithiau hirach wedi difrod sylweddol i bont restredig

  • Cyhoeddwyd
Pont BodfelFfynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Mae arbenigwyr yn asesu'r difrod ac yn penderfynu ar y camau nesaf

Mae pobl sy'n teithio ar y prif ffordd rhwng Pwllheli a Nefyn yn wynebu siwrne hirach - hyd at wyth milltir mewn rhai achosion - wedi i gerbyd achosi difrod sylweddol i bont gul dros y penwythnos.

Bu'n rhaid cau'r A497 rhwng Efailnewydd a Boduan yn ardal Pont Bodfel ddydd Sadwrn.

Fe chwalodd ddarn o'r wal ar un ochor o'r bont a syrthio i Afon Rhyd-hir.

Mae arbenigwyr yn asesu'r sefyllfa a dydy Cyngor Gwynedd ddim yn gallu cadarnhau pa bryd mae'r bont yn debygol o ailagor.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Does dim modd dweud ar hyn o bryd am ba hyd fydd y ffordd yn dal ar gau

Dywedodd llefarydd: "Yn dilyn adroddiad fod cerbyd wedi achosi difrod i Bont Bodfel ar yr A497 rhwng Efailnewydd a Boduan ar fore Sadwrn, fe wnaeth swyddogion y Cyngor gynnal arolwg brys o'r bont.

"Fe wnaeth yr arolwg gadarnhau fod y strwythur wedi ei ddifrodi yn sylweddol ac fe osodwyd gwyriad yn syth.

"Mae peirianwyr strwythurol yn cynnal arolygon manwl pellach o'r bont i asesu'r difrod a'r camau nesaf y bydd angen eu cymryd i gyfarch y sefyllfa.

"Yn y cyfamser, mae Pont Bodfel ar gau ac rydym yn annog aelodau'r cyhoedd i ddilyn yr arwyddion gwyriadau sydd yn eu lle."

Ffynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Pont Bodfel yn bont garreg tair bwa rhestredig Gradd II