Cwmni Tata Steel yn cwblhau gwaith adnewyddu gwerth £50m
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni Tata Steel wedi cynhyrchu'r dur cyntaf ers i waith adnewyddu gwerth £50m gael ei gwblhau ar y safle ym Mhort Talbot.
Dywed rheolwyr bod y buddsoddiad yn ymestyn oes ffwrnais rhif 5 am hyd at saith mlynedd ychwanegol, ac yn tawelu pryderon ynghylch ymroddiad Tata i'r diwydiant dur yn Ewrop.
Yn ôl prif weithredwr y cwmni dyma yw'r "buddsoddiad unigol mwyaf" hyd yma fel rhan o'u gwaith yn Ewrop.
Fe unodd Tata uno chwmni dur ThyssenKrupp ym mis Mehefin, gan ddod â rhagor o sicrwydd i'r ffatri sy'n cyflogi tua 4,000 o weithwyr.
Cafodd ffwrnais rhif 5 ei ddraenio yn yr hydref er mwyn cynnal gwaith adnewyddu angenrheidiol, gan gynnwys ailosod sawl rhan o'r system.
Dywedodd Hans Fischer, prif weithredwr gweithredodd Ewropeaidd Tata Steel: "Mae'r prosiect yma'n brawf o'n hymroddiad i adeiladu busnes cryfach a mwy cynaliadwy yn y DU, nawr ac yn y dyfodol."
Wrth drafod Brexit, ychwanegodd ei fod yn "bryderus iawn yn y tymor byr" gan fod posib i gwsmeriaid a'r gwaith cynhyrchu gael eu heffeithio yn fawr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2018