Tata yn buddsoddi £14m yng ngwaith dur Port Talbot

  • Cyhoeddwyd
Port TalbotFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cwmni Tata Steel wedi cyhoeddi buddsoddiad o dros £14m ym Mhort Talbot.

Bydd yn arian yn cael ei wario ar y felin strip boeth gyda'r nod o gynyddu capasiti presennol y felin o tua 5%.

Yn ôl llefarydd byddai hynny'n gyfystyr â chynnydd o 150,000 tunnell y flwyddyn.

Dywed Tata fod y buddsoddiad yn rhan o gynllun adain Ewropeaidd y cwmni i gynhyrchu dur o safon uchel.

"Fe fydd hyn yn ein helpu i ymateb i'r galw am y genhedlaeth nesaf o fathau o ddur, ar gyfer ceir hybrid a thrydan, pecynnu bwyd a thai sy'n ynni effeithiol."

Daw'r cyhoeddiad diweddara am safle Port Talbot yn sgil buddsoddiad o £30m ym mis Tachwedd.

Mae cwmni Tata yn cyflogi tua 4,000 ar y safle ym Mhort Talbot.