Pryder am ddyfodol clwb nofio llwyddianus
- Cyhoeddwyd
Mae un o glybiau nofio mwyaf llwyddiannus Cymru yn wynebu dyfodol ansicr oherwydd cynnydd ym mhrisiau'r pwll y maen nhw'n ei ddefnyddio ar gyfer hyfforddi.
Fe gafodd Clwb Nofio Caerdydd ei ffurfio 45 mlynedd yn ôl ac maen nhw'n dweud iddynt ddarparu mwy o nofwyr ar gyfer y Gemau Olympaidd a Gemau'r Gymanwlad nag unrhyw glwb arall yn y DU.
Maen nhw'n defnyddio Pwll Rhyngwladol Caerdydd, ond yn dilyn codiad yn y pris maen nhw'n ei dalu am y lle, mae pryder na fydd aelodau a theuluoedd yn gallu fforddio i barhau yn aelodau.
Mae Legacy Leisure sy'n rheoli'r pwll ar ran Cyngor Caerdydd yn dweud eu bod nhw'n awyddus i'r clwb barhau i ddefnyddio'r pwll a'u bod nhw'n cynnig pris teg.
Aelodau'n gadael
Mae'r cynnydd mewn ffïoedd aelodau yn y ddwy flynedd ddiwethaf wedi gweld nifer o aelodau yn gadael, yn ôl y Prif Hyfforddwr Graham Wardell.
Mae'r clwb yn talu ffi flynyddol am ddefnyddio'r pwll.
Hyd at ddiwedd Rhagfyr 2017 y ffi oedd £115,000, ac roedd bwriad i godi £51,000 yn ychwanegol y llynedd, ond wedi trafodaethau fe gytunodd Legacy Leisure ar gynnydd o £22,000 ar gyfer 2018.
Nawr mae'r cwmni wedi dweud eu bod nhw'n disgwyl i'r clwb dalu £29,500 yn ychwanegol eleni er mwyn cwrdd â'r targed gwreiddiol.
Ond mae hynny wedi golygu dau gynnydd i'r ffïoedd blynyddol i aelodau, sydd eisoes yn talu £100 y mis.
Dywedodd Mr Wardell: "Fe fydd pobl yn gadael y clwb oherwydd y codiad yma yn y ffïoedd.
"Rydym wedi colli 57 aelod y llynedd. Bydd y clwb yn lleihau o ran niferoedd felly fyddwn ni ddim angen cymaint o amser yn y dŵr.
"Ond, mae hefyd yn golygu bydd y safon mae'r clwb yn enwog amdano ddim yno bellach..
"Rydym wedi cael athletwyr ym mhob un o'r Gemau Olympaidd ers 1974, a dim ond ni fel clwb yn y DU allai ddweud hynny," meddai.
'Nofio'n goroesi'
Mae cyn aelodau'r clwb yn cynnwys, David Davies a enillodd y fedal arian yng Ngemau Olympaidd 2008.
Mae Margaret Kelly a enillodd arian yn 1980 hefyd wedi bod yn aelod.
Ychwanegodd Mr Wardell: "Dwi'n credu mai dyma fydd diwedd y clwb ar ei ffurf bresennol.
"Bydd nofio yng Nghaerdydd yn goroesi ond nid ar y lefel yma. Mae'n dorcalonnus," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Legacy Leisure: "Mae Clwb Nofio Caerdydd yn parhau i gael gostyngiad sy'n adlewyrchu defnydd y clwb o'r pwll a'i statws o ran perfformiad.
"Ym mis Ionawr 2018 fe wnaethom gynnal trafodaethau gyda'r clwb i egluro'r cynnydd mewn ffïoedd ac i esbonio'r rhesymau.
"Yn dilyn eu pryderon, fe wnaethom gytuno i ostwng y cynnydd am y flwyddyn, gan ei gwneud hi'n glir y byddwn yn parhau gyda'r cynnydd llawn yn 2019, roedd hyn yn rhoi amser iddyn nhw baratoi.
"Rydym yn hyderus bod ein ffïoedd yn rhatach na unrhyw bwll tebyg arall yn yr ardal," meddai.