'Y dilledyn drytaf sy'n cael ei wisgo leiaf'
- Cyhoeddwyd
Mae perthynas dynes â'i ffrog briodas wedi ysbrydoli ffotograffydd o Gaernarfon i ddod â chasgliad o'i gwaith at ei gilydd.
Y ffrog briodas, bron yn ddieithriad, yw'r dilledyn drytaf sy'n cael ei wisgo leiaf.
Drwy osod y teitl Y Ffrog ar ei harddangosfa ffotograffiaeth broffesiynol gyntaf, mae Kristina Banholzer, yn rhoi ffenestr ar ein perthynas â'r Diwrnod Mawr ac wedi dod o hyd i sawl stori ddiddorol rhwng yr holl lês a ffrils.
"Mi ges i'r syniad am y thema yma gan fy mod i wedi tynnu lluniau mewn nifer o briodasau ac mi roeddwn i'n cael fy rhyfeddu rili, jest 'wow', faint oedd bobl yn gwario," meddai.
"A 'nath o jest godi'r cwestiwn i mi tybed a oedd angen gwario cymaint a dod â'r ffasiwn bres i mewn i un diwrnod pan mae dau o bobl jest yn caru ei gilydd?
"Mae bron pawb yn licio priodas, efo ryw gysylltiad ag un, wedi bod mewn un - so o'n i jest isio dysgu mwy am berthynas dynes efo'i ffrog ond tu allan i'r diwrnod mawr ei hun."
Stori Sharon
Un sy'n ymddangos yn yr arddangosfa yw Sharon, wnaeth ddarganfod ei bod yn dioddef o salwch ar ei choluddyn ychydig fisoedd cyn priodi ond ar ôl iddi ddewis ei ffrog briodas.
Ar ôl dyweddïo gyda'i chariad, Huw, ym Mharis, aeth gyda'i mam i ddewis ffrog gan bigo un yn y diwedd oedd wedi ei ddewis iddi gan ddynes y siop yn Llanfairpwll.
"Dwi'n cofio nesh i'm codi fy llygaid tan o'n i'n sefyll ar y bloc o flaen y drych. Nesh i edrych i fyny - a honna o'dd y ffrog!
"O'dd hi'n steil a lliw hollol wahanol i be' o'dd gena'i mewn golwg. Pwy 'sa'n meddwl fasa rhywun arall yn dewis fy ffrog briodas?"
Roedd hi i fod i briodi ym mis Hydref ond aeth yn sâl ym mis Mehefin gyda haint ar ei choluddyn mawr a chael llawdriniaeth chwe awr i'w dynnu.
Dywedodd y meddyg wrthi y dylai ohirio'r briodas.
"Mi dorrish i 'nghalon," meddai, ond roedd yn benderfynol o brofi ei bod yn ddigon da i fedru priodi gyda help nyrsys, meddygon, teulu a Huw.
"O'dd y ffrog fel tent arna'i ar y ffiting ar ôl dod o'r 'sbyty. Odd yna bythefnos i fynd tan y briodas felly oedd angen ei addasu hi efo help gan dau chicken fillet i lenwi'r top!
"O'dd y diwrnod mawr yn ddathliad o pa mor lwcus o'n i i gael pawb o'dd wedi helpu fi mewn un stafell.
"Ar ôl cael closeshave ti'n edrych ar yr awyr a mae o'n fwy glas 'na ti 'rioed wedi weld o o'r blaen. Ti'n edrych ar y gwair a mae o'n fwy gwyrdd 'na ti 'rioed wedi ei weld o o'r blaen.
"Mae cael bywyd, ffrindiau a theulu yn fraint. A mae cael cefnogaeth a chariad yn fraint anhygoel. O'n i'n cael y cyfle i ddeud wrth pawb: "Ylwch be 'da chi' wedi galluogi fi i 'neud!"
Bellach yn fam i ddau o blant, mae mam Sharon wedi creu dillad bedydd i'r plant allan o'i ffrog briodas.
Mae'r arddangosfa, sy'n cynnwys cyfres o 12 o luniau lliw o ferched yn eu hamrywiol ffrogiau priodas, yn cael ei chynnal yn Galeri, Caernarfon, tan 24 Chwefror 2019.
Un o'r rhai sy'n ymddangos yn yr arddangosfa ydy Hayley Clarke a briododd yn uned gofal dwys Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Mae Kristina'n barod yn ystyried gwneud arddangosfa arall debyg.
"Dwi'n meddwl hwyrach bod yna sgôp i ehangu ar hyn a'i wneud o yn ne Cymru efallai.
"Os oes yna ferched efo stori ddifyr i'w hadrodd am eu ffrog briodas mi fyswn i wrth fy modd yn clywed ganddyn nhw."
Gyda'r ffrog briodas dan chwydd wydr Kristina cymaint, beth tybed ydi hanes ei ffrog briodas ei hun? Mae hi a'i phartner, yr actor Gwion Tegid (y cymeriad Barry ar Rownd a Rownd) wedi dyweddïo a thra'n gwenu o glust i glust, mae hi'n datgelu ei bod wedi ei chyffroi yn lân eu bod yn dod yn rieni am y tro cyntaf ym mis Mai.
Felly does dim amser ar hyn o bryd iddi fynd i chwilio am y ffrog ddelfrydol iddi hi ei hun!
Hefyd o ddiddordeb: