Croesawu penderfyniad i leoli uned frys yn Yr Amwythig
- Cyhoeddwyd
Bydd uned achosion brys Sir Amwythig yn cael ei lleoli yn nhref Yr Amwythig yn hytrach na Telford, wedi penderfyniad unfrydol gan y bwrdd iechyd lleol nos Fawrth.
Roedd yna bryderon y byddai cleifion o ganolbarth Cymru wedi gorfod teithio'n bellach i gael triniaeth frys petai'r gwasanaeth wedi cael ei ganoli yn Telford.
Mae tua 70,000 o gleifion yng ngogledd Powys yn teithio i Loegr i dderbyn gwasanaethau iechyd.
Mae'r penderfyniad wedi cael ei groesawu gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.
'Y gwerth gorau am arian'
Roedd Ymddiriedolaeth Iechyd Amwythig a Telford wedi dweud y byddai cael un Uned Achosion Brys canolog yn gwella'r gofal i gleifion.
Dywedodd adroddiad bod lleoli'r uned yn Yr Amwythig "yn darparu'r gwerth gorau am arian dros y tymor hir" ac y byddai'n rhaid i "lai o bobl deithio'n bell ar gyfer gofal brys".
Pobl sy'n byw yn ardaloedd dwyreiniol Powys, rhwng Carno a'r ffin, sy'n teithio i Loegr i dderbyn triniaeth.
Dywedodd un o gynghorwyr sir Powys, Elwyn Vaughan bod penderfyniad nos Fawrth "yn un pwysig ac yn gam mawr ymlaen", a bod y sefyllfa "wedi bod yn bryder i bobl dwyrain Powys".
"Bydd y bleidlais yn lleddfu rhywfaint ar hynny," meddai. "Mae'n rhaid parhau i bwyso rŵan, a sicrhau bod y buddsoddiad yn dilyn.
"Rhaid i ni beidio llaesu dwylo a pharhau i roi pwysau ar y gwasanaethau iechyd yng Nghymru a Lloegr - fel bod pob ystod o wasanaethau gofal yn cael eu cynnig o fewn cymunedau cefn gwlad Cymru."
Dywedodd Adrian Osborne o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys: "Mae'r penderfyniad yn sicrhau dyfodol hir dymor gwasanaethau yn yr Amwythig a Telford sy'n bwysig iawn i gymunedau yng ngogledd Powys.
"... Dros y blynyddoedd nesaf fe fydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn parhau i weithio'n agos gyda chymunedau lleol er mwyn sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed."
Yn ystod ymgynghoriad y llynedd fe wnaeth dros 3,000 o bobl o Gymru a'r gororau roi eu barn mewn cyfarfodydd a thrwy ateb holiaduron.