Uwch Gynghrair: Arsenal 2-1 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mewn noson emosiynol yn Stadiwm Emirates colli oedd hanes Caerdydd yn y gêm gyntaf iddyn nhw chwarae ers diflaniad yr ymosodwr Emiliano Sala.
Roedd yr ymosodwr 28 oed o'r Ariannin ynghyd â'r peilot David Ibbotson ar fwrdd awyren aeth ar goll dros Ynysoedd dros Fôr Udd ar ei ffordd o Nantes i Gaerdydd ar 21 Ionawr.
Cafodd teyrngedau eu rhoi i Sala cyn y gêm oddi wrth chwaraewyr, swyddogion a chefnogwyr y ddau dîm.
Ni lwyddodd yr un o'r ddau dîm i gael ergyd ar y gôl yn yr hanner cyntaf, ond fe aeth Arsenal ar y blaen o gic cosb Pierre-Emerick Aubameyang ar ôl 66 munud, ar ôl i Bruno Ecuele Manga droseddu yn erbyn Sead Kolasinac.
Aeth Arsenal ymhellach ar y blaen wrth i ergyd isel Alexandre Lacazette daro cefn y rhwyd.
Roedd Caerdydd yn teimlo eu bod yn haeddu cic o'r smotyn ar ôl i Nacho Monreal a Kolasinac daro yn erbyn Oumar Niasse, ond gwrthod y galwadau wnaeth y dyfarnwr Mike Dean.
Er i Nathaniel Mendez-Laing sgorio gôl hyfryd heibio Bernd Leno yn hwyr yn y gêm doedd hynny ddim yn ddigon.