Y Bencampwriaeth: Abertawe 3-3 Birmingham

  • Cyhoeddwyd
Graham Potter a Garry MonkFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Graham Potter a Garry Monk

Fe wnaeth ymdrech Oli McBurnie yn yr amser sy'n cael ei ganiatáu am anafiadau arbed pwynt i Abertawe yn Stadiwm Liberty.

Cyn hynny roedd ymwelwyr, oedd lawr i ddeg dyn, wedi llwydo i frwydo'n ôl ac i fynd ar y blaen.

Daniel James ddechreuodd y sgorio, gyda gôl i'r tîm cartref cyn i Jacques Maghoma ddod a'r sgôr yn gyfartal.

Cafodd Kristian Pederson ei anfon o'r maes ar ddiwedd yr hanner cyntaf ac yna sgoriodd McBurnie ei gôl gyntaf i roi'r Elyrch yn ôl ar y blaen.

Camgymeriad gan y golgeidwad Erwin Mulder roddodd cyfle i Michael Morrison ddod a'r sgôr yn gyfartal, ac ergyd wych gan Che Adams yn rhoi'r ymwelwyr ar y blaen.

Ond yna daeth ail gôl McBurnie i sicrhau pwynt.

Golygai'r canlyniad fod Abertawe yn aros yn safle 11, un safle yn uwch na Birmingham.