Yr heriau a'r hwyl o fagu 'quads'

  • Cyhoeddwyd
Iwan, Llyr, Iestyn ac OwainFfynhonnell y llun, Amanda Morgan Sweet Life photography

Mae'r therapydd harddwch Maria Nicholas a'i gŵr Barry newydd ddathlu carreg filltir bwysig gan fod quads y teulu newydd droi'n 18. Mae'r pedwar bachgen, Iwan, Llŷr, Iestyn ac Owain, yn byw gyda'u rhieni yn Abergwaun.

Bu Cymru Fyw'n siarad gyda Maria i weld sut brofiad yw magu pedwar gefaill o'r groth i fod yn oedolion.

"Mae'r profiad magu quads i gyd yn ddiddorol, gwylio dynamics y berthynas a pha mor wahanol yw e i bob perthynas arall.

"Dw i byth wedi gallu rhoi sylw un-wrth-un iddyn nhw, ond maen nhw i gyd wedi datblygu i fod yn fechgyn hyfryd er hynny. Yn y tŷ maen nhw'n poeni ei gilydd fel y mae plant yn eu harddegau, ond pan maen nhw allan, mae pawb yn sôn pa mor hyfryd a chwrtais yw nhw."

Ffynhonnell y llun, Maria Nicholas
Disgrifiad o’r llun,

Maria, Barry a'r bechgyn

Ganwyd y bechgyn 18 mlynedd yn ôl drwy lawdriniaeth Caesarean yn Ysbyty Singleton, Abertawe. Dyw nhw ddim yn unfath (identical) ond mae'r pedwar yn agos iawn.

Meddai Maria: "Mae'r bois yn ffrindie da ac yn gwneud popeth gyda'i gilydd. Roedd gwylio'r pedwar ohonynt yn chwarae rygbi gyda'i gilydd yn yr un tîm yn hyfryd.

"Mae ganddyn nhw eu diddordebau eu hunain ac erbyn hyn dim ond un sy'n chwarae rygbi ond os maen nhw'n mynd mas, maen nhw'n mynd gyda'i gilydd."

Blynyddoedd cynnar

"Yr amser caletaf oedd pan oedden nhw mewn gofal arbennig ac o'n i dal i wella ar ôl yr enedigaeth - roedden nhw mewn gofal arbennig yn Ysbyty Singleton am 12 wythnos. Roedd hi'n anodd iawn eto pan cawson nhw eu gwahanu fel babis - daeth un nôl i Ysbyty Llwynhelyg ac roedd y tri arall a fi dal yn Singleton. Roedd hynny'n galed iawn, iawn.

"Roedd yr amser anodd nesaf pan oedden nhw rhwng dwy a phedair mlwydd oed pan oedden nhw'n fwy annibynnol. Ro'n i angen llygaid yng nghefn fy mhen! Oedd hynny'n galed."

Mae gan Maria lwyth o straeon am anturiaethau'r bechgyn dros y 18 mlynedd diwethaf, gan gynnwys pan wnaeth y bechgyn gloi eu tadcu yn y tŷ bach yn ystod cyfnod potty training.

Meddai Maria: "Gyrhaeddais i adref ac wrth i mi gyrraedd, ro'n i'n meddwl, 'beth yw'r sawr 'na?' Roedd y bechgyn ar dop y staer ac o'dd llanast ym mhob man - ar y waliau, ar y stairgate - a'r bois yn chwerthin a jocan. Roedd Iestyn wedi sefyll ar y sedd a chloi fy nhad yn y 'stafell 'molchi. Doedd neb yn gallu clywed e, druan - ac o'dd y poti gyda fe!"

Ffynhonnell y llun, Maria Nicholas

Heriau unigryw

Mae magu quads yn cyflwyno heriau unigryw, yn ôl Maria, gan gynnwys pethau amlwg fel bod angen car mawr ond hefyd sialensiau bob dydd: "Mae popeth ni'n gwneud yn magnified. Llenwi ffurflenni pedair gwaith, drwy'r amser, ar gyfer pethau fel tripiau ysgol. Hyd yn oed mynd i'r deintydd - mae angen bloc o apwyntiadau.

"Mae gwyliau o hyd yn anodd. Dw i angen gwyliau ar ôl y gwyliau.

"Mae angen bod yn drefnus iawn. Ro'n i arfer hoffi gwneud popeth fy hun ond 'dw i wedi dysgu derbyn help. Dysgwch na fydd eich tŷ chi byth yn daclus, yn enwedig gyda bechgyn!

"A disgwyliwch filiau bwyd anferth."

Ffynhonnell y llun, Maria Nicholas

Mae Maria'n talu teyrnged i'w theulu a ffrindiau hi a Barry, sy' wedi helpu'r ddau mewn cyfnodau anodd.

Meddai Maria: "Mae Barry, fi a'r bechgyn wastad yn siarad fel ein bod ni'n un tîm a ni wastad yn sticio gyda'n gilydd a chefnogi ein gilydd.

"Mae teulu y ddau ohonom yn wych, ni'n lwcus iawn i gael teulu a ffrindiau da. Dw i wedi addo i fy mam y byddwn i'n ysgrifennu llyfr am fagu quads."

Ffynhonnell y llun, Maria Nicholas
Disgrifiad o’r llun,

Roedd angen pedair cacen ar gyfer penblwydd y bechgyn yn 18

Nyth wag

Wedi 18 mlynedd yn byw a mynychu ysgolion lleol Abergwaun gyda'i gilydd, mae'r bechgyn yn cychwyn palu llwybrau eu hunain gydag Iwan yn hyfforddi i fod yn blymer, Llŷr yn ffermio, Iestyn yn trio am brentisiaeth mewn peirianneg ac Owain yn gwneud cwrs chwaraeon.

Meddai Maria: "Dw i ddim yn siŵr os fyddan nhw'n ffeindio fe'n hawdd neu beidio i fod ar wahân. Roedd Barry a fi wedi gweld haf diwethaf yn anodd, i adael fynd o'r bois - aeth y pedwar i'w gŵyl miwsig cyntaf. Mae pob pennod yn wahanol."

Er yr holl waith a'r llanast, fyddai Maria yn ei wneud i gyd eto?

"Byddwn, achos mae'r amser yn mynd mewn fflach a 'dwyt ti ddim yn cael ail gyfle fel wyt ti gyda ail blentyn."

Efallai o ddiddordeb