Ledley'n gadael Derby, King a Vokes yn symud hefyd
- Cyhoeddwyd

Mae Joe Ledley wedi ennill 77 o gapiau dros Gymru ers 2005
Mae chwaraewr canol cae Cymru, Joe Ledley wedi gadael Derby County yn y Bencampwriaeth gan ddweud nad yw'n gallu "eistedd a gwylio pêl-droed".
Fe wnaeth y chwaraewr 32 oed gytuno i ganslo ei gytundeb gyda Derby ddydd Iau, gan olygu ei fod nawr yn rhydd i arwyddo i glwb arall.
Dim ond pedair gwaith oedd Ledley wedi chwarae i Derby ers i Frank Lampard gymryd yr awenau fel rheolwr yn yr haf.
Fe wnaeth dau chwaraewr arall Cymru - Andy King a Sam Vokes - hefyd symud clybiau ar ddiwrnod olaf y cyfnod trosglwyddo.

Roedd adroddiadau bod Abertawe hefyd yn awyddus i arwyddo Andy King
Mae King wedi llenwi'r bwlch sydd wedi'i adael gan Ledley yn Derby, gan arwyddo ar fenthyg o Gaerlŷr nes diwedd y tymor.
Dim ond unwaith oedd y chwaraewr canol cae 30 oed wedi ymddangos i Gaerlŷr y tymor yma.

Mae Sam Vokes wedi cynrychioli Cymru ar 61 achlysur
Mae Vokes wedi symud o'r Uwch Gynghrair i'r Bencampwriaeth, gan adael Burnley i arwyddo i Stoke.
Y gred yw bod Stoke wedi talu swm o arian a gadael i Peter Crouch symud y ffordd arall fel rhan o'r cytundeb.
Mae Vokes, 29, yn ymuno â thri Chymro arall - Joe Allen, Ashley Williams a'r rheolwr Nathan Jones - yn y clwb o Sir Stafford.