£35,000 i gerddorion Cymru drwy gronfa lansio Gorwelion
- Cyhoeddwyd
Bydd cerddorion yng Nghymru yn derbyn £35,000 gan gronfa i ddatblygu cerddoriaeth gyfoes newydd.
Mae'r Gronfa Lansio yn rhan o gynllun Gorwelion BBC Cymru Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru ac eleni daeth dros 100 o geisiadau i law.
Mae'r artistiaid buddugol yn cynnwys y cerddor gwerin, Gwilym Bowen Rhys, a'r grŵp Mellt sy'n derbyn arian ar gyfer prynu offerynnau ac offer safonol ar gyfer perfformiadau byw.
Dywedodd llefarydd ar ran y cynllun, sy'n cael ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol, fod yr arian yn "fodd iddyn nhw ddatblygu eu gyrfaoedd a'u cerddoriaeth a chynnal gweithgareddau eraill a fydd o gymorth iddyn nhw i wireddu'u potensial".
Rhoddwyd y dasg o ddewis yr ymgeiswyr mwyaf cymwys i ddau banel a oedd yn cynnwys 20 o arbenigwyr o'r diwydiant cerddoriaeth.
Ers ei sefydlu yn 2014, mae Gorwelion a'r Gronfa Lansio wedi dyfarnu arian i 150 o artistiaid, o fwy na 60 o drefi, ar draws Cymru.
Eleni, cafodd y 28 artist llwyddiannus nawdd i'w helpu gydag amrywiaeth o fentrau - o logi lle ymarfer i weithio gyda chynhyrchwyr profiadol a recordio'n broffesiynol.
'Gwahaniaeth gwirioneddol'
Wrth ymateb dywedodd y canwr gyfansoddwr Gwilym Bowen Rhys: "Mae'n fraint gen i dderbyn cefnogaeth ariannol. Mae'n hwb gwerthfawr i gerddorion Cymreig sy'n ceisio lledaenu eu gwaith adref a thramor.
"Byddaf yn defnyddio'r pres i greu ffilm gerddoriaeth a ffilm ddogfen fer am fy albym newydd fydd allan mis Mai".
Dywedodd Rheolwr Prosiect Gorwelion, Bethan Elfyn: "Rydym wedi gweld cerddoriaeth o Gymru yn mynd drwy gyfnod hynod o gynhyrchiol a phroffidiol yn y 12 mis diwethaf felly mae'n dda gweld y Gronfa Lansio yn parhau i ddarparu arian y mae mawr ei angen ar gyfer y criw newydd cyffrous o artistiaid sy'n dod drwodd.
"Mae'r grantiau hyn yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn darparu arian ar adeg holl-bwysig i artistiaid newydd, un ai i recordio neu i hyrwyddo deunydd newydd.
"Fe welwch o'r rhestr artistiaid mor gyffrous yw'r ystod o genres cerddorol a'r syniadau creadigol yng Nghymru ar hyn o bryd, yn amrywio o'r rhai sydd reit ar gychwyn eu taith i'r rhai sy'n cymryd y cam nesaf ac yn gwthio'u hunain ychydig yn bellach."
Bydd rhai o'r artistiaid llwyddiannus yn cael cynnal sesiwn ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales, gan ddechrau ddydd Llun.
Yr artistiaid buddugol
Aleighcia Scott, Caerdydd - Fideo cerddoriaeth swyddogol a marchnata digidol ar gyfer albwm cyntaf.
Accu, Maesycrugiau, Sir Gaerfyrddin - Gitâr drydan, pedalau a chysylltiadau cyhoeddus ar gyfer yr albwm nesaf.
Jessy Allen, Caerdydd - Recordio EP cyntaf 6-trac.
Bandicoot, Sgeti, Abertawe - Recordio sengl gyntaf yn y Gymraeg.
Gwilym Bowen Rhys, Bethel, Caernarfon - Recordio albwm newydd a ffilmio.
Chembo, Wrecsam - Gwneud copïau meistr o recordiadau newydd a fideo cerddoriaeth.
Chrles, Biwmares, Ynys Môn - Ysgrifennu caneuon a recordio.
CHROMA, Aberpennar, Rhondda Cynon Taf - Recordio albwm cyntaf.
GRAVVES, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint - Fideo cerddoriaeth a sesiwn tynnu lluniau.
EADYTH, Merthyr Tudful - Offer recordio.
Darren Eedens & The Slim Pickins, Caerdydd - Recordio albwm newydd.
Ennio the Little Brother, Shotton, Sir y Fflint - Taith o gwmpas y Deyrnas Unedig gyda'r band o Gymru, Campfire Social ac offer recordio.
Eve Goodman, y Felinheli, Gwynedd - Ysgrifennu caneuon a hyfforddiant lleisiol pellach.
HANA2K, Sili, Bro Morgannwg - Gliniadur newydd ar gyfer ysgrifennu a recordio demos, sesiynau recordio, cymysgu a gwneud copïau meistr a fideos YouTube.
Rebecca Hurn, Porthcawl - Recordio deunydd newydd ar gyfer 3ydd EP, cynhyrchu CD a hyrwyddwr radio.
I SEE RIVERS, Dinbych-y-pysgod - Amser stiwdio i recordio albwm cyntaf.
Kidsmoke, Wrecsam - Cymysgu albwm cyntaf a gwneud copi meistr.
Los Blancos, Sir Gaerfyrddin - Recordio albwm a chysylltiadau cyhoeddus.
Marged, Caerdydd - Ysgrifennu caneuon a chynhyrchu albwm cyntaf.
Mellt, Aberystwyth - Offerynnau ac offer safonol ar gyfer perfformiadau byw.
Moletrap, Llanfair-ym-Muallt - Cwblhau albwm cyntaf.
No Good Boyo, Caerdydd - Recordio a rhyddhau albwm newydd, ffotograffiaeth a fideo.
Jack Perrett, Casnewydd - Recordio deunydd, fideo cerddoriaeth a ffotograffiaeth newydd a chysylltiadau cyhoeddus.
The Pitchforks, Rhondda Cynon Taf - Recordio dwy sengl newydd, video cerddoriaeth a thaith o gwmpas y Deyrnas Unedig.
Christian Punter, Glyn Rhedynnog, y Rhondda - Prosiect EP newydd yn defnyddio storïau sy'n deillio o'r gymuned leol.
Silent Forum, Caerdydd - Ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer albwm sydd i ymddangos yn fuan.
Daniel Soley, Caerdydd - Gwefan a dosbarthu cerddoriaeth.
VOYA, Caerdydd - Offer safonol ar gyfer perfformio'n fyw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2015