Eilyr Thomas i dderbyn Medal Goffa Syr TH Parry-Williams

Llun o Eilyr ThomasFfynhonnell y llun, Yr Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Y cyn-brifathrawes Eilyr Thomas fydd yn derbyn Medal Goffa Syr TH Parry-Williams eleni

  • Cyhoeddwyd

Menyw sydd wedi dylanwadu'n sylweddol ar "fywyd cerddorol a diwylliannol ei chymuned" fydd yn cael ei hanrhydeddu gyda Medal Goffa Syr TH Parry-Williams yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni.

Mae Eilyr Thomas o Landysilio, Sir Benfro, yn gyn-athrawes a chyn-brifathrawes mewn ysgolion cynradd yn ardal Maenclochog a Mynachlog-ddu.

Ond, y tu hwnt i'w gyrfa ym myd addysg, bu'n weithgar ym myd cerddoriaeth a chanu ers yn ifanc iawn.

Pan gafodd wybod am y wobr, dywedodd ei bod hi'n "fud hollol – methu cael geiriau i'm meddwl o gwbl".

Mae'r fedal yn cael ei chyflwyno bob blwyddyn i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol yn eu hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobl ifanc.

'Ffigwr gweithgar ac ysbrydoledig'

Mewn datganiad fe ddywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol bod "ei chyfraniadau i fywyd cerddorol a diwylliannol y gymuned wedi bod yn sylweddol, ac mae'n parhau i fod yn ffigwr gweithgar ac ysbrydoledig ym mhob peth a wna".

Fe gafodd Ms Thomas lwyddiant mawr ar lwyfannau eisteddfodau bach a mawr, yn enwedig fel unawdydd, ac fel aelod o gorau a phartïon.

Ar ôl cael gwybod ei bod am gael ei hanrhydeddu dywedodd: "Dwi ddim yn berson sy'n ennill cystadlaethau na dim byd, ond hwn – doeddwn i ddim yn gallu coelio.

"Wrth gwrs, mae'n anrhydedd, ac rydw i'n falch iawn o'i dderbyn, er fy mod yn nerfus iawn hefyd."

Dywedodd hefyd ei bod wedi mwynhau canu erioed er ei bod hi'n "rhyfeddol o swil".

"Bob tro roedd rhywun yn dod i'r tŷ ac yn gofyn i mi ganu, byddwn i'n mynd tu ôl i'r llenni – allwn i byth eu hwynebu," meddai.

Mae gwaith ac ymroddiad Eilyr Thomas wedi rhoi cyfleoedd i nifer o berfformwyr ifanc.

Yn eu plith mae Jessica Robinson, a fu'n cystadlu yng nghystadleuaeth Canwr y Byd, Trystan Llŷr Griffiths, Sioned Llewelyn, Esyllt Thomas, Ffion Thomas a Caleb Nichlas.

Yn ychwanegol at ei gyrfa a'i hymroddiad i'r byd cerddorol mae Eilyr Thomas yn cyfrannu'n wirfoddol i sawl rhan o'i chymuned - mae'n aelod ymroddgar o Gapel Nebo, Efailwen, ac yn gwirfoddoli gyda Chlwb Pensiynwyr Llandysilio.

Cafodd ei hanrydeddu â'r Wisg Wen yng Ngorsedd Cymru am ei gwaith dros ddiwylliant ei hardal ac mae'n gyn-aelod o Gyngor yr Eisteddfod.

Mi fydd hi'n derbyn y fedal ar lwyfan y Pafiliwn am 12:30, ddydd Mawrth, 5 Awst.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.