Bydd ehangu Clwb Ifor Bach yn creu 'adnodd i Gymru gyfan'

  • Cyhoeddwyd
Guto BrychanFfynhonnell y llun, Dafydd Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Gobaith Guto Brychan ydi "creu llwybrau newydd" i'r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru

Bydd ehangu safle presennol Clwb Ifor Bach yn "creu adnodd i Gymru gyfan", yn ôl prif weithredwr y clwb, Guto Brychan.

Mae'r lleoliad ar Stryd Womanby yn bwriadu uno'r safle presennol gyda'r adeilad drws nesaf, newid a fydd yn gweld y clwb yn hawlio dau lwyfan newydd.

Mae ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Clwb Ifor Bach ddydd Mawrth er mwyn rhoi cyfle i bobl drafod y cynlluniau yn fanylach.

Ychwanegodd Mr Brychan y gallai ehangu'r clwb "arwain at fwy o gyfleoedd i bobl ar draws y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru".

Mewn datganiad wythnos ddiwethaf, dywedodd Clwb bod y gwaith yn bosib ar ôl i Gyngor Caerdydd gytuno i gaffael yr adeilad y drws nesaf, a'i brydlesu i Glwb Ifor am y tymor hir.

Daeth y newyddion yng nghanol cyfnod o ansicrwydd ar gyfer sin gerddorol y brif ddinas ar ôl i Gwdihŵ a bar Buffalo gyhoeddi eu bod yn cau.

Ffynhonnell y llun, Dafydd Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r clwb wedi sicrhau prydles ar gyfer yr adeilad y drws nesaf

Dywedodd Mr Brychan mai'r hyn sydd tu ôl i'r cynllun yw dymuniad y clwb i gynnig lleoliadau maint canolig.

"Be oni eisiau gweld ydi cael prif ystafell o 500, ail ystafell o 300 - ac o hynny wedyn ein bod ni'n gallu cefnogi artistiaid unwaith, ddwywaith, teirgwaith wrth iddyn nhw ddatblygu eu gyrfa cyn symud i leoliadau mwy," meddai.

'Creu llwybrau'

Mae cyfoethogi'r sin gerddoriaeth yng Nghaerdydd ar flaenoriaeth, ond nid dyna'n unig yw gweledigaeth y clwb.

Ychwanegodd Mr Brychan: "Un o'r pethau eraill fydd hyn yn galluogi i ni wneud ydi ehangu'r hyn 'da ni'n ei wneud o ran cynnig cyfleoedd i bobl, nid jyst artistiaid ond pobl sy'n gweithio yn y diwydiant.

"Da ni eisiau gallu creu llwybrau i bobl sydd efo ddiddordeb mewn gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth."

Disgrifiad,

Clwb Ifor am "greu llwybrau newydd"

'Clwb yn llawn dop'

Un sy'n croesawu'r cynllun ydi'r DJ Gareth Potter: "Mae angen o ar Clwb i fod yn onest... mae'r ciw lawr y stryd... mae'r clwb yn llawn dop bob nos Sadwrn."

Bydd y cynllun yn golygu bod Clwb Ifor yn gallu osgoi cynnal gigs mewn lleoliadau eraill, yn ogystal â'u galluogi i lwyfannu bandiau mwy adnabyddus, yn ôl Mr Potter.

I Dan Jardine, mae'r cyhoeddiad yn newyddion da mewn cyfnod siomedig i gerddoriaeth y brif ddinas:

"Fi'n credu bydd e'n rhoi hwb i'r sin cerddoriaeth Cymraeg, hwb hefyd i fywyd nos Caerdydd, ac i'r iaith Gymraeg. Yn enwedig ar ôl y newyddion trist bod bar Gwdihŵ yn cau."