Y Sgowsars Cymreig
- Cyhoeddwyd
Hwyliodd y Mimosa o'i dociau i sefydlu'r Wladfa; yno cynhaliwyd Eisteddfod Y Gadair Ddu; boddwyd Capel Celyn er mwyn cyflenwi dŵr i'w dinasyddion; ac mae llun eiconig Salem i'w gweld yno. Oes, mae cysylltiad clòs wedi bod rhwng Cymru a Glannau Merswy ers amser maith.
Wrth i waith adnewyddu tai teras 'Strydoedd Cymreig' Lerpwl dynnu at ei derfyn, Cymru Fyw fu'n edrych ar gysylltiad y Cymry â phrifddinas answyddogol Gogledd Cymru.
Twf Lerpwl yn yr 1800au fu'n gyfrifol am gryfhau'r cysylltiad. Heidiodd pobl o bob rhan o Brydain i'r ddinas i wneud eu ffortiwn, a nifer helaeth ohonyn nhw'n dod o ochr arall y ffin.
Un o'r rhai amlycaf oedd y masnachwr Owen Owen, o Fachynlleth, a agorodd siop a ddatblygodd i fod yn un o'r rhai mwyaf llewyrchus ac adnabyddus yn y ddinas.
Wrth gwrs, roedd angen tai i'r gweithlu newydd, ac angen gweithwyr i'w hadeiladu - degau o filoedd ohonyn nhw yn dod dros Glawdd Offa.
Dyma'r cyfnod pan adeiladwyd 'Strydoedd Cymreig' ardal Toxteth, a'r enwau'n adlewyrchu'r genedl wnaeth eu hadeiladu.
Ac ynghanol strydoedd fel Voelas Street, Rhiwlas Street, Powis Street, Gwydir Street, Pengwern Street a Treborth Street mae Madryn Street.
Cyn-breswylydd rhif naw ydi'r rheswm dros achub y strydoedd rhag cael eu dymchwel. Nid Cymro oedd o, ond Beatle ifanc - Ringo Starr.
'Little Wales'
Nid dyma'r unig strydoedd gyda chysylltiad Cymreig chwaith.
Yn ardal Everton mae llythyren gyntaf cyfres o strydoedd yn sillafu enw tad a mab a oedd yn gyfrifol am eu hadeiladu.
Felly mae strydoedd Oxton, Winslow, Eton, Neston, Andrew, Nimrod, Dane, Wilburn, Ismay, Lind, Lowell, Index, Arnot, Makin, Olney, Weldon, Euston, Nixon, Elton, Liston, Imrie, Astor a Stuart yn sillafu 'Owen and William Owen Elias'.
Ac efallai'r prawf amlycaf o'r niferoedd enfawr o Gymry a fudodd i'r ddinas ydi'r plac ar y Pall Mall, ger Leeds Street, sy'n nodi mai 'Little Wales' oedd enw'r ardal a bod un o bob 10 o boblogaeth Lerpwl yn 1813 yn Gymry.
Erbyn 1900 roedd 90 capel Cymraeg yn y ddinas ac ar Princes Road roedd capel mwyaf erioed y Methodistiaid Calfinaidd, gyda digon o le i 1,250 o addolwyr. Dyma Anfield yr Anghydffurfwyr.
Ysbytai yn cynnig croeso cynnes
Mae'r cysylltiad â Chymru wedi parhau dros y blynyddoedd.
I ysgolion Lerpwl a Glannau Merswy aeth nifer o athrawon o'r gogledd ar gyfer eu swydd gyntaf, ac yno hefyd aeth nifer o ddoctoriaid a nyrsys i hyfforddi a gweithio.
Mae cleifion y gogledd sydd angen gofal arbenigol yn gyfarwydd iawn ag ysbytai fel Alder Hey, Broadgreen a'r Women's Hospital.
Ac mae geiriau Cymraeg wrth fynedfa Canolfan Walton i groesawu ymwelwyr i'r ysbyty niwrolegol yn brawf o hynny.
Y cochion a'r gleision Cymreig
Ac wrth gwrs, mae'n anodd sôn am Lerpwl heb drafod pêl-droed.
Kevin Ratcliffe oedd capten Everton yn ystod un o gyfnodau mwyaf llwyddiannus y clwb yn yr 1980au, a bu Neville Southall a Dai Davies rhwng y pyst am flynyddoedd.
Ar ochr goch y ddinas, mae John Toshack ac Ian Rush wedi hen ennill eu plwyf yn Oriel yr Anfarwolion, a bu Dean Saunders a Craig Bellamy hefyd yn llwyddiannus efo tîm Lerpwl.
Ac os ydi dau o enwau ifanc disgleiriaf Cymru Harry Wilson a Ben Woodburn yn parhau i flodeuo bydd y cysylltiad yn parhau i'r dyfodol.
Hefyd o ddiddordeb: