Un yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad A470 yn Sir Conwy
- Cyhoeddwyd
Mae un person yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol ac un arall wedi ei arestio yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Conwy fore Mercher.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru iddyn nhw ddilyn cerbyd ar yr A470 cyn y gwrthdrawiad yn Nolwyddelan.
Mae gyrrwr y car, sy'n 26 oed ac yn lleol i'r ardal, wedi ei arestio ar amheuaeth o yfed a gyrru, gyrru peryglus, dwyn cerbyd modur, peidio â stopio a chymryd cerbyd heb ganiatâd.
Cafodd dyn arall oedd yn teithio yn y cerbyd ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau sy'n peryglu ei fywyd.
Mae'r heddlu wedi cyfeirio'r mater at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).