Ceredigion i wella prosesau diogelu data personol

  • Cyhoeddwyd
cyfrifiadurFfynhonnell y llun, Getty Images

Dywed Cyngor Ceredigion eu bod wedi gwella'r modd mae dogfennau yn cael eu cyhoeddi ar wefan y sir yn dilyn camgymeriad wnaeth arwain i dorri rheolau cadw data.

Yn ôl y cyngor "gwall dynol" oedd yn gyfrifol am y ffaith i ddogfennau - rhai yn cynnwys gwybodaeth bersonol a sensitif - gael eu darganfod ar eu gwefan.

Papur newydd lleol y Cambrian News wnaeth roi gwybod i'r cyngor am y camgymeriad.

Ddydd Mercher dywedodd prif swyddog corfforaethol Ceredigion, Arwyn Morris, wrth aelodau pwyllgor archwilio'r awdurdod fod yna brosesau newydd wedi eu mabwysiadu.

Wrth gyfeirio at y digwyddiad, dywedodd Mr Morris fod wyth o ddogfennau gyda manylion iechyd manwl wedi eu rhyddhau.

Mae pedwar o'r bobl hynny wedi marw, ac mae'r cyngor wedi anfon at y pedwar arall yn egluro ac yn ymddiheuro am beth ddigwyddodd

Roedd gweddill y wybodaeth gafodd ei ryddhau ar gam wedi ei gategoreiddio fel lefel risg is, gan gynnwys enwau cwmnïau yn ymwneud â phrynu a gwerthu tir.

Fe wnaeth y Cynghorydd Gareth Davies gyfeirio at gamgymeriadau gyda chadw data'n ddiogel bum mlynedd yn ôl.

"Fe gafwyd sicrwydd pryd hynny na fyddai'n digwydd eto. Rwy'n derbyn mai camgymeriad dynol oedd hwn. Ond pan rydych yn cael sicrwydd fod mater wedi ei setlo a bod data yn ddiogel rydych yn disgwyl iddo fod yn ddiogel," meddai.

Dywedodd Mr Morris na allai roi sicrwydd "100% na fyddai bug arall yn y system, ac fe allai bod camgymeriad dynol arall, ond rwyf mor hyderus a gallai fod ein systemau yn ddiogel a bod gwybodaeth bersonol a sensitif yn cael ei gadw mewn modd mor ddiogel â phosib".

Mae'r cyngor wedi cyflwyno adroddiad am yr hyn ddigwyddodd a manylion cynllun gweithredu i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.