Galw am ddileu byrddau hysbysebu digidol yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Bwrdd Hysbysebu Digidol ar Heol Eglwys Fair Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Dau fwrdd hysbysebu digidol ar Heol Eglwys Fair yng Nghaerdydd

Adfer llefydd cyhoeddus oddi wrth hysbysebion corfforaethol ydi bwriad ymgyrch newydd fydd yn cychwyn yng Nghaerdydd heddiw.

Mae Adblock Caerdydd yn galw ar Gyngor Sir Caerdydd i wrthod caniatâd cynllunio ar gyfer mwy o fyrddau hysbysebu digidol yn y ddinas er mwyn sicrhau awyrgylch hapusach a brafiach i drigolion ac ymwelwyr - a chael gwared ar y rhai sydd yna yn barod hefyd.

Siôn Elis Williams sydd wedi sefydlu'r ymgyrch yng Nghaerdydd - fydd yn cynnal eu cyfarfod cyntaf heno - a hynny ar ôl ymgyrch debyg ym Mryste.

Yn ôl Cyngor Caerdydd mae'r hysbysebion "yn ddull amgen o ariannu" ac yn fodd i roi gwybodaeth hanfodol i'r cyhoedd.

Mae byrddau hysbysebu digidol wedi cael eu dileu eisoes yn ninasoedd São Paolo a Grenoble.

Dinas gynta Prydain

Mae Mr Williams yn gobeithio mai Caerdydd fydd y ddinas gyntaf ym Mhrydain i wneud hefyd.

"Fe allwn ni ddilyn esiampl dinasoedd eraill," meddai.

"Mae 'na ymgyrch gref ym Mryste a gobeithio gallu gwneud yn debyg a'r nod o gael gwared arnyn nhw yn gyfan gwbl."

Dywedodd bod Bryste wedi llwyddo i atal 50 o geisiadau cynllunio am sgriniau digidol bach ar y stryd a thua dwsin o rai enfawr.

Disgrifiad o’r llun,

Siôn Elis Williams a sefydlodd yr ymgyrch yng Nghaerdydd

Dywedodd bod sgriniau digidol yn "llygru'r meddwl a'r amgylchedd".

"Y rheswm dros gychwyn yr ymgyrch ydi atal hysbysu tu allan yng Nghaerdydd," meddai.

"A hynny er mwyn cael dinas tawelach, dinas mwy iachus ac yn lle neis i fyw yn hytrach na bod pobl yn ceisio gwerthu rhywbeth i ni.

"Does 'na ddim dewis gan bobl i'w gweld nhw ar y stryd ac maen nhw'n gallu tanseilio'r ffordd mae pobl yn meddwl am eu hunain."

Ac fe ychwanegodd bod trydan a LED's yn cael eu defnyddio, sy'n creu llygredd gwaeth na'r hen ddull o ddefnyddio'r papur.

Arf marchnata

Ond i gwmnïau, elusennau a mudiadau mae byrddau hysbysebu o'r fath yn arf marchnata allweddol.

"Maen nhw'n blatfform effeithiol iawn," meddai Carys Osborne, Cyfarwyddwr Cyfryngau i asiantaeth Orchard yng Nghaerdydd.

"Mae 'na lot o gyfyngiadau sy'n cael eu rhoi mewn gwahanol lefydd ac mae rheolau mewn lle bod y cynnwys yn addas a gweddus.

"Mae cwmnïau lleol ac elusennau yn manteisio ar y cyfle i'w defnyddio hefyd - gyda mwy o ofod mae prisiau yn is a chyfle newydd i gyrff gyrraedd cynulleidfa ehangach.

"Yn fwy fwy mae isadeiledd fel safleoedd yr hen flychau ffôn yn cael eu haddasu i gynnwys y byrddau sydd hefyd yn hwb diwifr am ddim i ymwelwyr."

Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na wybodaeth yn cael eu rhoi ar y byrddau yn ogystal â hysbysebion

Yn ôl Cyngor Caerdydd, mae ganddyn nhw gytundebau ar hyn o bryd gyda nifer o gwmnïau preifat i hysbysebu mewn safleoedd bysiau ac ar sgriniau digidol yn y ddinas.

"Mae'r cytundebau yma yn ddull amgen o ariannu ar gyfer y cyngor.

"Hefyd, mae'r 'gofod digidol' yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ymgyrchoedd Gwybodaeth i'r Cyhoedd hanfodol.

"Yn ddiweddar iawn defnyddiwyd arddangosiadau digidol i hysbysebu gwasanaethau sydd ar gael i'r digartref sy'n cysgu ar y stryd yng nghanol y ddinas.

"Mae pob cytundeb yn nodi'n fanwl gywir bod rhaid i bob hysbysiad masnachol gydymffurfio â rheolau a osodwyd gan y corff rheoleiddio hysbysebion - yr Awdurdod Safonau Hysbysebu - yn ogystal â thelerau ychwanegol a osodwyd gan y Cyngor.

"Mae'r telerau ychwanegol yn ymwneud â, ond nid yn gyfyngedig i, unrhyw gynnwys yr ystyrir ei fod yn anweddus, gwleidyddol, yn erbyn trafnidiaeth gyhoeddus neu'n hysbysebu cynlluniau benthyciadau diwrnod cyflog. Mae'n rhaid i unrhyw hysbysebion sy'n mynd yn groes i'r telerau dan sylw gan eu tynnu ymaith cyn pen 24 awr yn dilyn cyflwyno hysbysiad."

Dywedodd y cyngor mai mater preifat oedd faint o elw yr oedden nhw'n ei dderbyn gan y byrddau hysbysebu,

Ond i Mr Williams a'r ymgyrch, fydd yn cael cefnogaeth ymgyrchwyr o Fryste yn eu cyfarfod nos Iau, mae llwyddiant yn golygu y byddai'r cyngor yn cydnabod y math o ddifrod mae hysbysebion o'r fath yn ei wneud i drigolion ac ymwelwyr Caerdydd ac yn cael eu gwared yn gyfan gwbl.

"Yn eu lle, fe fyddwn i'n dymuno gweld mwy o natur yng nghanol y ddinas, mwy o waith celf o'r gymuned, fel bod y ddinas lle mwy pleserus i fod.

"Mae 'na ddyletswydd a lle i arwain yn y maes yma."