Cymru'n gwneud 10 newid i herio'r Eidal yn y Chwe Gwlad
- Cyhoeddwyd
Mae prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi gwneud 10 newid i'r tîm fydd yn herio'r Eidal yn Rhufain ddydd Sadwrn.
Mae'r canolwr Jonathan Davies wedi cael ei enwi fel capten ar Gymru am y tro cyntaf yn ei yrfa, gyda'r capten arferol Alun Wyn Jones yn eilydd.
Bydd yr asgellwr Jonah Holmes, y blaenasgellwyr Thomas Young ac Aaron Wainwright a'r mewnwr Aled Davies yn cychwyn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad am y tro cyntaf.
Fe fydd Josh Navidi hefyd yn symud i safle'r wythwr, ar ôl dechrau fel blaenasgellwr yn y fuddugoliaeth ym Mharis ar y penwythnos agoriadol.
Davies, Navidi, Liam Williams, Josh Adams ac Adam Beard yw'r pump sy'n cadw eu lle o'r gêm ar y penwythnos agoriadol.
Mae Holmes yn cymryd lle George North ar yr asgell, ac Owen Watkin sy'n chwarae gyda Davies fel canolwr.
Does dim lle i Tomos Williams yn y 23, gydag Aled Davies yn dechrau fel mewnwr a Gareth Davies ar y fainc.
Dan Biggar fydd yn dechrau fel maswr, wrth i Gareth Anscombe gael ei enwi fel eilydd.
Mae'r rheng flaen yn un cwbl newydd, gyda Nicky Smith, Elliot Dee a Samson Lee yn cymryd lle Rob Evans, Ken Owens a Tomas Francis, tra mai Jake Ball fydd yn yr ail reng gyda Beard.
Roedd Cymru yn fuddugol yn rownd agoriadol y bencampwriaeth ar ôl brwydro 'nôl i guro Ffrainc o 24-19.
Dyma oedd y ddegfed buddugoliaeth o'r bron i dîm Gatland, a byddai buddugoliaeth yn erbyn Yr Eidal yn golygu eu bod nhw'n gyfartal â'r record bresennol o 11.
Tîm Cymru
Liam Williams; Jonah Holmes, Jonathan Davies (c), Owen Watkin, Josh Adams; Dan Biggar, Aled Davies; Nicky Smith, Elliot Dee, Samson Lee, Jake Ball, Adam Beard, Aaron Wainwright, Thomas Young, Josh Navidi.
Eilyddion: Ryan Elias, Wyn Jones, Dillon Lewis, Alun Wyn Jones, Ross Moriarty, Gareth Davies, Gareth Anscombe, Hallam Amos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2019