Matthew Maynard yn parhau fel rheolwr Morgannwg dros dro
- Cyhoeddwyd
Mae Morgannwg wedi cadarnhau bod Matthew Maynard yn parhau fel rheolwr y clwb tan ddiwedd tymor 2019.
Cafodd Maynard ei benodi fel rheolwr dros dro yn dilyn ymadawiad Robert Croft ym mis Hydref.
Dywedodd cyn-hyfforddwr batio Lloegr ei fod "wrth ei fodd" o gael y cyfle i arwain y garfan, gan obeithio am flwyddyn "lwyddiannus".
Bydd y broses o chwilio am olynydd i Maynard yn dechrau ar ddiwedd y tymor, yn ôl llefarydd ar ran y clwb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2018