Cymraes 12 oed am geisio concro Kilimanjaro

  • Cyhoeddwyd
Tesni Francis-Parker a'i thad, Gary,Ffynhonnell y llun, Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Tesni Francis-Parker a'i thad, Gary, fydd yn ceisio concro Kilimanjaro

Mae merch 12 oed yn gobeithio bod yr ieuengaf erioed o Gymru i ddringo mynydd uchaf Affrica.

Bydd Tesni Francis-Parker o'r Fenni yn cael cwmni ei thad, Gary, i geisio concro Kilimanjaro.

Oherwydd ei uchder bydd yn cymryd chwe diwrnod i ddringo'r mynydd 19,340 troedfedd, a dau ddiwrnod i ddod yn ôl i lawr.

Mae Tesni yn dringo'n rheolaidd ym Mannau Brycheiniog hefo'i theulu.

Cyfrifydd yw ei thad Gary, 63, ond mae'n fynyddwr profiadol sydd wedi dringo ar sawl cyfandir, yn ogystal â chymryd rhan mewn rasus marathon heriol o gwmpas y byd.

Mae Tesni yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Gwent Iscoed, a bydd ei hymgais i ddringo'r mynydd yn Tanzania yn dechrau ar Chwefror 25, yn ystod y gwyliau hanner tymor.

Teimlo'n 'lwcus'

Dywedodd nad oedd y posibilrwydd o fod y person ieuengaf o Gymru i goncro'r mynydd yn hollbwysig iddi.

"Dwi'n credu y bydd yn beth da i'w wneud ar ddechrau fy mhrofiadau mynydda," meddai.

"Dwi eisiau dringo mwy o fynyddoedd wedyn, yn enwedig yn yr Alpau ar ôl bod yn Chamonix y flwyddyn diwethaf.

"Mae dad wedi dringo Kilimanjaro nifer o weithiau, ac wedi arwain grwpiau i'w gopa. Byddai'n teimlo'n saff gyda fe.

"Mae'n dweud y dyle ni weld jiráff, mwnciod ac efallai eliffantod yn y dyddiau cyntaf. Dwi'n gobeithio mynd ar saffari wedi hynny, a gobeithio y caf weld llewod.

"Mae un o fy ffrindiau'n dweud wrtha'i beidio mynd am ei fod yn beryglus, ond mae pawb arall yn dweud fy mod yn lwcus. Dwi'n meddwl mai lwcus ydw i."

Mae antur yng ngwaed Tesni gyda'i mam, Liz, yn redwraig ryngwladol a chyn-bencampwraig Cymru, ac hithau hefyd wedi dringo Kilimanjaro.