Ymchwilio i'r heddlu wedi i ddyn gael ei anafu'n ddifrifol
- Cyhoeddwyd
Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi lansio ymchwiliad ar ôl i ddyn ddioddef anafiadau difrifol wedi i'r heddlu ddilyn cerbyd ar yr A470 yn Sir Conwy ddydd Mercher.
Fe ddechreuodd Heddlu Gogledd Cymru ddilyn y Ford Kuga yn ardal Dolwyddelan toc wedi hanner nos ar ôl iddyn nhw dderbyn adroddiadau bod y cerbyd wedi'i ddwyn.
Dywedodd llefarydd ar ran yr IOPC: "Rydyn ni'n deall bod teithiwr 20 oed oedd yn y Kuga wedi gadael y cerbyd tra roedd yn symud.
"Fe wnaeth yr heddlu ddefnyddio dyfais stinger i ddod â'r Kuga i stop. Fe wnaeth y dyn ddioddef anafiadau difrifol a chafodd ei gludo i'r ysbyty.
"Cafodd y dyn oedd yn gyrru, oedd ddim wedi'i anafu, ei arestio."
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru ddydd Mercher bod y gyrrwr, sy'n 26 oed ac yn lleol i'r ardal, wedi ei arestio ar amheuaeth o yfed a gyrru, gyrru'n beryglus, dwyn cerbyd modur, peidio â stopio a chymryd cerbyd heb ganiatâd.
Mae'r IOPC eisoes wedi cyfweld yr heddweision oedd yn gysylltiedig â'r digwyddiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2019