'Dathlu Cymru gyfan' tra'n denu twristiaeth i'r gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae cadeirydd corff Twristiaeth Gogledd Cymru yn galw am "strategaeth i ddathlu Cymru gyfan" wrth ddenu ymwelwyr.
Roedd Chris Frost yn siarad wrth i ymgyrch gael ei lansio yn y gogledd ddwyrain i annog twristiaid i aros a gwario yn yr ardal honno.
Yn ôl cydlynydd prosiect Aros, Bwyta, Gwneud, mae'r ardal "yn cael ei gwasgu" gan boblogrwydd Eryri, ac mae angen dod â "pherlau cudd" y fro i'r amlwg.
Dywedodd llefarydd ar ran Croeso Cymru bod "sicrhau bod pobl Cymru yn dysgu am ac yn ymweld â rhannau newydd o'r wlad yn ganolog" i'w strategaeth.
Bwriad Aros, Bwyta, Gwneud yw creu clystyrau o fusnesau yn y gogledd ddwyrain fyddai'n cydweithio i gynnig pecynnau gwyliau i ymwelwyr.
Bydd themâu gwahanol i'r pecynnau, fyddai'n cynnig llety, gweithgareddau a bwyd mewn un profiad.
'Ardal wych'
Yn ôl Chris Frost, cadeirydd corff preifat Twristiaeth Gogledd Cymru a chydberchennog bwyty a llety yn Rhuthun, dim ond am tua dwy noson mae pobl yn aros yn yr ardal fel arfer.
"Rydan ni mewn ardal wych, yn agos iawn i filiynau o bobl," meddai.
"Yr her yw i'w cael nhw i aros am gyfnodau hirach ac ymestyn y tymor ymwelwyr fel eu bod yn teithio ar adegau pan na fuasen nhw'n gwneud hynny fel arfer."
Pan ofynnwyd iddo os oedd y gogledd ddwyrain yn cael ei anghofio wrth hyrwyddo'r gogledd, dywedodd:
"Dwi'n meddwl bod gogledd Cymru'n dda iawn am hyrwyddo'i hun, mewn gwirionedd.
"Ond mae'n rhaid i ni feddwl am bethau yn eu cyfanrwydd, am fod astudiaethau diweddar wedi darganfod nad ydy pobl yn ne Cymru yn dod i'r gogledd.
"Felly mae'n rhaid i Gymru gyfan gael strategaeth twristiaeth i ddathlu popeth am Gymru gyfan - nid yn unig er mwyn denu pobl o bell, ond er mwyn cael pobl Cymru i aros yng Nghymru hefyd."
'Llawer i'w gynnig'
Bydd prosiect Aros, Bwyta, Gwneud yn rhedeg tan haf 2021 ar gost o £71,000.
Mae wedi cael ei ariannu gan Gadwyn Clwyd ac Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Julie Masters yw cydlynydd cyntaf y cynllun, ac mae'n credu bod y teithiau fydd yn cael eu cynnig yn gyfle i'r gogledd ddwyrain hyrwyddo'r hyn sy'n unigryw i'r ardal.
"Dwi'n meddwl ein bod ni'n cael ein gwasgu [gan atyniadau eraill], yn bennaf achos nad oes gennym ni'r cynnig mawr, y gwestai mawr, y parciau mawr.
"Ond dwi'n gweld hynny'n fantais.
"Mae'n rhaid i ni ddod o hyd i'n niches ein hunain.
"Mae ganddon ni lawer i'w gynnig ond mae'r perlau'n aml yn gudd, dyna pam ein bod yn dod â chlystyrau at ei gilydd i roi sylw i'r perlau hynny ac i'w gwneud nhw'n hygyrch."
Dywedodd llefarydd ar ran Croeso Cymru: "Mae sicrhau bod pobl Cymru yn dysgu am ac yn ymweld â rhannau newydd o'r wlad yn ganolog i strategaeth Croeso Cymru ac rydym wedi bod yn gwneud mwy a mwy i hyrwyddo twristiaeth yma yng Nghymru ers lansio'r blynyddoedd thematig yn 2016.
"Rydym wedi buddsoddi mewn sawl prosiect cyfalaf yn y gogledd dros y blynyddoedd diwethaf, fel Zip World a Chanolfan Ymwelwyr Llyn Brenig, sydd wedi rhoi'r rhanbarth ar y map yn rhyngwladol ac wrth gwrs yng Nghymru ei hun, ac rydym yn hyderus y bydd yr holl waith hyn yn annog mwy a mwy o bobl o dde Cymru i deithio i'r gogledd, a gweddill Cymru, yn y dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2017